Sam Rowlands MS for North Wales is delighted to see the resettlement of Ukrainian families in the county.
He said:
I am pleased by the way local authorities in North Wales have responded to the appeal for homes for these refugees. It is really great to see them offering and showing support for Ukraine.
I am absolutely delighted to hear that families from the war-torn country have now started to arrive in Flintshire.
I am sure everyone has seen the harrowing scenes from Ukraine on the news and like me, can’t believe what is happening over there. My heart goes out to everyone involved in the conflict and I am sure they will be welcomed by us all here in North Wales.
Flintshire County Council, working with partner organisations, including Betsi Cadwaladr University Health Board, have begun to welcome those fleeing the conflict as part of the UK Homes for Ukraine Scheme.
Flintshire’s Chief Executive, Neal Cockerton, said:
As a County of Sanctuary, we have an absolute commitment to supporting those fleeing from Ukraine. We have put in place measures that will ensure this happens safely for everyone. The process has been agreed with all partner organisations.
Safeguarding for both hosts and sponsors is at the forefront of our decision making and we are confident that we will welcome families from Ukraine into Flintshire ensuring that they feel safe and supported.
If you have any enquiries, or would like to offer accommodation, email [email protected] and for more information visit flintshire.gov.uk/ukraine.
Sam Rowlands AS yn croesawu’r newyddion fod ffoaduriaid o Wcráin wedi dechrau cyrraedd Sir y Fflint.
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn falch iawn o weld teuluoedd o Wcráin yn ymgartrefu yn y sir.
Meddai:
Rwy’n falch iawn o’r ffordd mae awdurdodau lleol yn y Gogledd wedi ymateb i’r apêl am gartrefi ar gyfer y ffoaduriaid hyn. Mae’n braf iawn eu gweld yn cynnig a dangos cefnogaeth i Wcráin.
Mae’n hyfryd clywed bod teuluoedd o’r wlad sydd wedi’i rhwygo gan y rhyfel yn dechrau cyrraedd Sir y Fflint.
Rwy’n sicr bod pawb wedi gweld y golygfeydd echrydus o Wcráin ar y newyddion ac fel fi, yn methu coelio’r hyn sy’n digwydd yno. Mae fy nghalon yn gwaedu dros bawb sy’n rhan o’r gwrthdaro ac rwy’n sicr y bydd pawb yma yn y Gogledd yn eu croesawu.
Mae Cyngor Sir y Fflint, gan weithio gyda sefydliadau partner, yn cynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi dechrau croesawu’r rhai sy’n dianc o’r gwrthdaro fel rhan o Gynllun Cartrefi i Wcráin y DU.
Meddai Neal Cockerton, Prif Weithredwr Sir y Fflint:
Fel Sir Noddfa, mae gennym ymrwymiad llwyr i gefnogi’r rheiny sy’n ffoi o Wcráin. Rydym wedi rhoi mesurau ar waith a fydd yn sicrhau bod hyn yn digwydd yn ddiogel i bawb. Mae’r holl sefydliadau partner wedi cytuno ar y broses.
Mae diogelu’r sawl sy’n croesawu a’r noddwyr yn hollbwysig wrth i ni wneud ein penderfyniadau ac rydym yn hyderus y byddwn yn croesawu teuluoedd o Wcráin i Sir y Fflint ac yn gofalu eu bod yn ddiogel ac yn cael eu cefnogi.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, neu os ydych chi am gynnig llety, e-bostiwch [email protected] ac am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Cynllunio-Rhag-Argyfwng/Ukraine.aspx.