Sam Rowlands, MS for North Wales is backing the British Heart Foundation Cymru’s Heart Attack Gender Gap Campaign.
Mr Rowlands recently joined fellow MS’s at an event in the Senedd to raise awareness of heart attacks in women in Wales.
He said:
I was shocked to hear that Wales has the second highest coronary heart disease female death rate of the UK’s four nations with around 1,300 women dying every year.
This is double the number of deaths caused by breast cancer, and quite frankly a very worrying number. I was amazed at that figure and happy to support any campaigns to raise awareness of this issue.
It is alarming to think that heart attacks are perceived as something which only happens to men, which of course is not the case, and it is vital we get this important message across.
At the annual reception in the Senedd, BHF Cymru called for action to raise awareness of heart attacks in women in Wales.
Research funded by BHF suggests that the deaths of at least 8,000 women could have been prevented through equitable cardiac treatment over a ten-year period in England and Wales.
A survey carried out in 20021 of 1,000 people in Wales showed that women were not seen as being at risk of heart disease by the Welsh public, with 65% unable to identify heart disease as one of the leading causes of death in women.
Each year around 1,700 women are admitted to hospitals in Wales due to a heart attack yet they are not seen as being at risk and when they do experience symptoms they might not be taken seriously by themselves or those around them.
Earlier this year, Gemma Roberts, BHF Policy and Public Affairs Manager said there were plans to address the inequalities in England and Scotland and wanted to see the same in Wales.
She said:
Welsh Government should commit to a women’s health plan which addresses inequalities experienced by women with heart disease.
The plan should seek to improve outcomes for women through improved public awareness, timely diagnosis, equitable treatment and equitable access to cardiac rehabilitation.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at y bwlch o ran trawiad ar y galon rhwng y rhywiau yng Nghymru
Mae Sam Rowlands AS dros y Gogledd yn cefnogi Ymgyrch Bwlch Trawiad ar y Galon rhwng y Rhywiau gan Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru.
Yn ddiweddar, ymunodd Mr Rowlands â’i gyd-aelodau o’r Senedd mewn digwyddiad yno i godi ymwybyddiaeth o drawiadau ar y galon ymysg menywod yng Nghymru.
Meddai:
Roedd hi’n syndod clywed mai yng Nghymru y mae’r gyfradd marwolaethau clefyd coronaidd y galon uchaf ond un ym mhedair cenedl y DU gydag oddeutu 1,300 o fenywod yn marw bob blwyddyn.
Mae hyn ddwywaith cymaint â nifer y marwolaethau a achosir gan ganser y from, a rhaid cyfaddef ei fod yn gryn destun pryder. Roeddwn i wedi rhyfeddu gyda’r ffigur ac yn falch o gael cefnogi unrhyw ymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth o’r mater.
Mae’n ofnadwy meddwl bod trawiadau ar y galon yn cael eu hystyried fel rhywbeth sydd ond yn digwydd i ddynion, gan nid felly y mae wrth reswm, ac mae’n hanfodol ein bod yn lledaenu’r neges bwysig hon.”
Yn y derbyniad blynyddol yn y Senedd, galwodd Sefydliad Prydeinig y Galon Cymru am weithredu i godi ymwybyddiaeth o drawiadau ar y galon ymysg menywod yng Nghymru.
Awgryma ymchwil a gyllidwyd gan Sefydliad Prydeinig y Galon y gellid bod wedi atal marwolaeth o leiaf 8,000 o fenywod drwy driniaeth gardiaidd deg dros gyfnod o ddeg mlynedd yng Nghymru a Lloegr.
Dangosodd arolwg o fil o bobl yng Nghymru a gynhaliwyd yn 2021 nad oedd menywod yn cael eu hystyried mewn risg o drawiadau ar y galon ymysg y cyhoedd yng Nghymru, gyda 65% yn methu nodi clefyd y galon fel un o brif achosion marwolaeth menywod.
Bob blwyddyn mae tua 1,700 o fenywod yn cael eu derbyn i ysbytai yng Nghymru oherwydd trawiad ar y galon ond er hynny nid ydynt yn cael eu hystyried fel rhai sy’n wynebu risg, a phan fyddant yn dioddef symptomau efallai nad ydynt yn cael eu cymryd o ddifrif ganddyn nhw na’r bobl o’u cwmpas.
Yn gynharach eleni, dywedodd Gemma Roberts, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus Sefydliad Prydeinig y Galon bod cynlluniau ar y gweill i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb yn Lloegr a’r Alban a’i bod am weld yr un peth yn digwydd yng Nghymru.
Meddai:
Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i gynllun iechyd menywod sy’n mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n wynebu menywod gyda chlefyd y galon.
Dylai’r cynllun geisio gwella canlyniadau i fenywod drwy well ymwybyddiaeth gyhoeddus, diagnosis amserol, triniaeth deg a mynediad cyfartal at wasanaethau adfer cardiaidd.