Sam Rowlands, MS for North Wales has welcomed news of future plans at Wrexham’s Glyndwr University.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, was speaking after a meeting with Vice Chancellor, Professor Maria Hinfelaar.
He said:
I was delighted to be shown around and to hear about what plans are in the pipeline to attract more students and offer new courses.
Since becoming a university in 2008, Glyndwr has gone from strength to strength and is successfully raising its profile and attracting more people to study here in North Wales.
It really is impressive to see the number of students increasing in this very competitive market and I wish them well for the future.
Wrexham Glyndwr University is one of the youngest in the UK and began with just two campuses at Plas Coch and Regent Street in the town. It has since grown and has two other sites in Northop and St Asaph.
Sam Rowlands AS yn falch o weld twf parhaus mewn prifysgol yn y Gogledd.
Mae Sam Rowlands, AS y Gogledd, wedi croesawu’r newyddion am gynlluniau Prifysgol Glyndŵr Wrecsam ar gyfer y dyfodol ym.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn siarad ar ôl cyfarfod gyda’r Is-ganghellor, yr Athro Maria Hinfelaar.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael fy nhywys o gwmpas a chlywed pa gynlluniau sydd ar y gweill i ddenu mwy o fyfyrwyr a chynnig cyrsiau newydd.
Ers dod yn brifysgol yn 2008, mae Glyndŵr wedi mynd o nerth i nerth ac yn llwyddo i godi ei phroffil a denu mwy o bobl i astudio yma yn y Gogledd.
Mae’n drawiadol iawn gweld nifer y myfyrwyr yn cynyddu yn y farchnad gystadleuol hon ac rwy’n dymuno’n dda iddynt yn y dyfodol.
Mae Prifysgol Glyndŵr Wrecsam yn un o’r rhai ieuengaf yn y DU a dechreuodd gyda dim ond dau gampws ym Mhlas Coch a Regent Street yn y dref. Ers hynny mae wedi tyfu ac mae ganddi ddau safle arall yn Llaneurgain a Llanelwy.