Sam Rowlands, MS for North Wales has welcomed a council initiative to create wildflower meadows across Denbighshire.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, is backing a project by Denbighshire County Council to save rare blooms.
He said:
Local authorities have a responsibility to put a plan in place to enhance its biodiversity and I am delighted to see DCC’s commitment to the future by managing its wild flowers.
In 2020 DCC identified 21 sites including highway verges, amenity garden and cycle ways to create wildflower meadows. They now have almost 60 areas included in its Wildflower Project, which is most impressive.
It is vital we manage to keep our declining plants and blooms and without projects like this we risk losing them altogether. It is also fascinating to hear about the rare species which are being found in Prestatyn and I welcome this local initiative.
This week the officers leading the project have recorded a nationally declining species on the Prestatyn Beach Road West site. The plant is called Hound’s Tongue (Cynoglossum officinale) and was previously only recorded in Denbighshire 18 times within the last 116 years.
Also on a site near Stryd y Brython site, officers have found a common spotted orchid which has been added to the growing list of wildflowers supported by the project.
To find out more about the wildflower meadows across Denbighshire click here.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Prosiect Blodau Gwyllt
Mae Sam Rowlands, AS y Gogledd, wedi croesawu menter gan y cyngor i greu dolydd blodau gwyllt ledled Sir Ddinbych.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn cefnogi prosiect gan Gyngor Sir Ddinbych i achub blodau prin.
Meddai:
Mae gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb i roi cynllun ar waith i wella’u bioamrywiaeth ac rwy’n falch iawn gweld ymrwymiad Cyngor Sir Ddinbych i’r dyfodol drwy reoli ei flodau gwyllt.
Yn 2020, nododd Cyngor Sir Ddinbych 21 safle, gan gynnwys ymylon priffyrdd, gerddi amwynder a llwybrau beicio i greu dolydd blodau gwyllt. Bellach, mae ganddynt bron i 60 ardal yn eu Prosiect Bywyd Gwyllt, ac mae hynny’n drawiadol dros ben.
Mae’n hollbwysig ein bod yn llwyddo i gadw ein planhigion a blodau sy’n dirywio, a heb brosiectau fel hyn rydym ni mewn perygl o’u colli’n llwyr. Mae’n ddiddorol iawn clywed am y rhywogaethau prin sy’n cael eu canfod ym Mhrestatyn ac rwy’n croesawu’r fenter leol hon.
Yr wythnos hon mae’r swyddogion sy’n arwain y prosiect wedi cofnodi rhywogaeth sy’n dirywio’n genedlaethol ar safle Prestatyn Beach Road West. Enw’r planhigyn yw tafod y bytheiad (Cynoglossum officinale) a dim ond 18 gwaith y cafodd ei gofnodi yn Sir Ddinbych yn y 116 mlynedd diwethaf.
Hefyd ar safle ger Stryd y Brython, mae swyddogion wedi canfod tegeirian dwysflodeuog sydd wedi’i hychwanegu at y rhestr gynyddol o flodau gwyllt a gefnogir gan y prosiect.
I ddysgu mwy am y dolydd bywyd gwyllt ledled Sir Ddinbych, cliciwch yma.