Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, made his pledge during a recent meeting with Healthy Air Cymru, to promote this year’s Clean Air Day.
He said:
Clean Air day is the UK’s largest air pollution campaign and I was delighted to have the opportunity to talk to Healthy Air Cymru, who share our vision to work together for a cleaner and greener Wales.
The organisation works together with many different partners including Sustrans Cymru, Royal College of Psychiatrists, Asthma UK and the British Lung Foundation Wales, to help improve the air we breathe.
Poor air quality is one of the largest environmental health risks we face and can cause serious illnesses. I was happy to support Clean Air Day and pledged to champion measures to tackle this very serious problem.
Clean Air Day brings together communities, businesses, schools and the health sector to improve public understanding of air pollution, build awareness of how it affects our health and what we can do to tackle the problem.
Sam Rowlands, AS y Gogledd, yn rhoi addewid i hyrwyddo mesurau i fynd i’r afael â llygredd aer.
Rhoddodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, ei addewid yn ystod cyfarfod diweddar gydag Awyr Iach Cymru, i hyrwyddo Diwrnod Aer Glân eleni.
Meddai:
Diwrnod Aer Glân yw ymgyrch llygredd aer fwyaf y DU ac roeddwn i wrth fy modd yn cael y cyfle i siarad ag Awyr Iach Cymru, sy’n rhannu ein gweledigaeth i gydweithio dros Gymru lanach a gwyrddach.
Mae’r sefydliad yn gweithio gyda llawer o wahanol bartneriaid, gan gynnwys Sustrans Cymru, Coleg Brenhinol y Seiciatryddion, Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint Cymru, er mwyn helpu i wella’r aer rydym ni’n ei anadlu.
Ansawdd aer isel yw un o’r risgiau iechyd amgylcheddol mwyaf sy’n ein hwynebu a gall achosi salwch difrifol. Roeddwn i’n falch o gefnogi Diwrnod Aer Glân ac ymrwymo i hyrwyddo mesurau i fynd i’r afael â’r broblem ddifrifol hon.
Mae Diwrnod Aer Glân yn dod â chymunedau, busnesau, ysgolion a’r sector iechyd at ei gilydd i wella dealltwriaeth y cyhoedd o lygredd aer, meithrin ymwybyddiaeth o’r modd y mae’n effeithio ar ein hiechyd a’r hyn y gallwn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem.