This month, the Welsh Labour Government, along with their Co-operation Agreement partners in Plaid Cymru, have voted to introduce a 20mph urban speed limit across Wales. This will see Wales become the only nation in the world to adopt a 20mph default speed limit on residential streets.
It’s important to note that many people, including myself, do support 20mph speed limits where there is clear evidence of it being necessary and appropriate, such as outside schools, hospitals, and heavily pedestrianised areas. But a blanket approach, especially on main artery roads, seems a stretch too far.
Nevertheless, the Welsh Government have been trialling the introduction of a 20mph scheme in Buckley in North Wales, and I’ve had the pleasure of meeting with residents and local representatives who have been subject to this.
Residents have told me, that in their eyes, this 20mph speed limit trial has led to them experiencing more pollution, more accidents, and more delays. Despite this, it is apparent that the Welsh Government has no plans to listen to these concerns and consult with people in North Wales, and this has led to real anger in local communities.
Along with this, it’s clear that a blanket 20mph scheme does not appreciate the needs of many rural areas. If the idea of this is to encourage more people to walk and cycle, this just isn’t a reality for getting from A to B in rural Wales. A 20mph scheme won't allow ordinary people to get on with their normal activities at the same rate, such as getting to work, or dropping the kids off at school. People will be spending more time in their car, rather than getting on with what they need to do.
A 20mph urban speed limit across Wales is a backward step in how we go about our daily lives; the Welsh Government should focus on the job at hand – not waste £33 million on this blanket scheme.
Please feel free to contact me by emailing [email protected] or calling on 0300 200 7267.
Fy marn i - The Leader
Y mis hwn, mae Llywodraeth Lafur Cymru, ynghyd â'i phartneriaid Cytundeb Cydweithio, Plaid Cymru, wedi pleidleisio i gyflwyno terfyn cyflymder trefol o 20mya ledled Cymru. Bydd hyn yn golygu mai Cymru fydd yr unig wlad yn y byd i fabwysiadu terfyn cyflymder diofyn o 20mya ar strydoedd preswyl.
Mae'n bwysig nodi bod llawer o bobl, gan gynnwys fi fy hun, yn cefnogi terfyn cyflymder 20mya lle mae tystiolaeth glir ei fod yn angenrheidiol ac yn briodol, megis y tu allan i ysgolion, ysbytai ac ardaloedd i gerddwyr yn unig. Ond mae dull hollgynhwysfawr fel hwn, yn enwedig ar brif ffyrdd, yn teimlo fel cam yn rhy bell.
Serch hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn treialu cyflwyno cynllun 20mya ym Mwcle yn y Gogledd, ac rwyf wedi cael y pleser o gyfarfod â thrigolion a chynrychiolwyr lleol sydd wedi cael profiad ohono.
Mae trigolion wedi dweud wrtha i eu bod nhw'n teimlo bod y treial terfyn cyflymder 20mya hwn wedi arwain at fwy o lygredd, mwy o ddamweiniau a mwy o oedi. Er gwaethaf hyn, mae'n amlwg nad oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i wrando ar y pryderon hyn ac ymgynghori â phobl yn y Gogledd, ac mae hyn wedi arwain at ddicter gwirioneddol mewn cymunedau lleol.
Ynghyd â hyn, mae'n amlwg nad yw cynllun 20mya hollgynhwysfawr yn ystyriol o anghenion llawer o ardaloedd gwledig. Os mai annog mwy o bobl i gerdded a beicio yw'r nod, nid yw hyn yn ymarferol ar gyfer mynd o A i B yng nghefn gwlad Cymru. Ni fydd cynllun 20mya yn caniatáu i bobl gyffredin fwrw ymlaen â'u gweithgareddau arferol ar yr un cyflymder, megis cyrraedd y gwaith neu fynd â’r plant i’r ysgol. Bydd pobl yn treulio mwy o amser yn y car, yn hytrach na bwrw ymlaen â'r hyn sydd angen iddyn nhw ei wneud.
Mae terfyn cyflymder trefol o 20mya ledled Cymru yn gam yn ôl yn y ffordd rydym yn byw ein bywydau bob dydd; dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar y gwaith sydd ganddi - a pheidio gwastraffu £33 miliwn ar y cynllun hollgynhwysol hwn.
Mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 200 7267.