Sam Rowlands MS is proud to announce that the Outdoor Education Bill’s explanatory memorandum has been published following extensive consultation with academic institutions and the outdoor education sector.
Commenting, Welsh Conservative Shadow Local Government Minister, Sam Rowlands MS said:
My aspiration is for all children in Wales to be given access to an Outdoor Education residential visit at least once in their school career, regardless of their local authority or their family income. Wales should be at the forefront of outdoor education delivery, this Bill will look to achieve this.
I have had the pleasure of working closely with academic institutions and the outdoor education sector in preparing and developing the proposed policy objectives of this Bill and assessing the potential costs.
Outdoor education is immensely beneficial with a range of lasting benefits for students’ physical and mental health as well as improving their understanding of the natural world around them. Sadly, too many students don’t get the opportunity to participate in these opportunities.
More information on the bill can be found online here.
Cyhoeddi manylion newydd Bil Addysg Awyr Agored Sam Rowlands
Mae Sam Rowlands AS yn falch o gyhoeddi bod memorandwm esboniadol y Bil Addysg Awyr Agored wedi’i gyhoeddi yn dilyn ymgynghoriad eang â sefydliadau academaidd a’r sector addysg awyr agored.
Wrth roi sylwadau, dywedodd Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Sam Rowlands AS:
Fy nyhead yw i holl blant Cymru gael cyfle i gael ymweliad preswyl Addysg Awyr Agored o leiaf unwaith yn eu gyrfa ysgol, waeth beth fo’u hawdurdod lleol neu incwm eu teulu. Dylai Cymru fod ar flaen y gad o ran darpariaeth addysg awyr agored, ac mae’r Bil yn ceisio cyflawni hyn.
Rwyf wedi cael y pleser o weithio’n agos â sefydliadau academaidd a’r sector addysg awyr agored i baratoi a datblygu amcanion polisi arfaethedig y Bil hwn ac asesu’r costau posibl.
Mae addysg awyr agored yn fuddiol tu hwnt gydag ystod o fanteision parhaol i iechyd corfforol a meddyliol myfyrwyr. Mae hefyd yn gwella eu dealltwriaeth o’r byd naturiol o’u cwmpas. Mae’n drist nad yw llawer o fyfyrwyr yn cael cyfle i gymryd rhan yn y cyfleoedd hyn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y bil yma.