Sam Rowlands MS for North Wales is backing a major campaign to recruit more police officers in his region.
Mr Rowlands, Welsh Conservative Shadow Minister for Local Government, said:
North Wales Police are currently accepting applications for police officers and I am urging anyone interested to make sure they apply by the end of the month.
As a keen and long-time supporter of the police and the valuable work they carry out I am happy to back this campaign to recruit more officers and encourage people to consider this job.
As a police officer you will be given the opportunity to have a really good career with the chance to specialise in many different roles and facing varied challenges every day.
If you want to make a difference in your community, help reduce crime and promote confidence among local people then why not apply.
Police Constables are the face and voice of North Wales Police. They are on the ground, working in partnership with the public and organisations in making a difference to the local community, coming from different walks of life, but united by the same goal – to keep communities safe.
As a police officer you will have a key role in supporting victims and witnesses and providing reassurance to individuals who’ve been subjected to crime and anti-social behaviour
Policing is one of the most varied jobs there is. From responding to a 999 call you may be saving a life, conducting traffic stops, preventing domestic abuse, identifying modern slavery, supporting victims, finding vulnerable people, or being the first on the scene in a disaster such as an accident, deceased, public disorders or terrorist attacks. Whatever your day brings, you’ll be in a unique position in making North Wales the safest place in the UK.
The window for applications is currently open until August 29 and more details can be found on the North Wales Police website – www.northwales.police.uk
Sam Rowlands AS yn galw ar ei etholwyr i ystyried ymuno â’r heddlu yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands AS yn cefnogi ymgyrch fawr i recriwtio mwy o swyddogion heddlu yn ei ranbarth.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol ar ran y Ceidwadwyr Cymreig:
Mae Heddlu Gogledd Cymru’n derbyn ceisiadau ar gyfer swyddogion yr heddlu ar hyn o bryd ac rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb i wneud yn siŵr eu bod yn gwneud cais erbyn diwedd y mis.
Fel cefnogwr brwd a maith o’r heddlu a’r gwaith gwerthfawr maen nhw’n ei wneud rwy’n hapus i gefnogi’r ymgyrch hon i recriwtio mwy o swyddogion ac annog pobl i ystyried y swydd hon.
Fel swyddog yn yr heddlu byddwch yn cael cyfle i gael gyrfa arbennig o dda gyda’r cyfle i arbenigo mewn gwahanol rolau ac wynebu heriau amrywiol bob dydd.
Os ydych chi am wneud gwahaniaeth yn eich cymuned, helpu i leihau trosedd a hybu hyder ymysg pobl leol, anfonwch gais.
Cwnstabliaid yr heddlu yw wyneb a llais Heddlu Gogledd Cymru. Maen nhw ar lawr gwlad, yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyhoedd a sefydliadau i wneud gwahaniaeth i’r gymuned leol, yn dod o wahanol gefndiroedd, ond wedi’u huno gan yr un nod – cadw cymunedau’n ddiogel.
Fel swyddog yn yr heddlu bydd gennych rôl allweddol yn cefnogi dioddefwyr a thystion a darparu sicrwydd i unigolion sydd wedi bod yn destun achosion o drosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Heddlua yw un o’r swyddi mwyaf amrywiol sy’n bodoli. O ymateb i alwad 999 gallwch fod yn achub bywyd, yn stopio traffig, yn atal cam-drin domestig, yn canfod achos o gaethwasiaeth fodern, yn rhoi cymorth i ddioddefwyr, yn dod o hyd i bobl agored i niwed, neu fod y cyntaf i gyrraedd lleoliad trychineb fel damwain, marwolaeth, anhrefn cyhoeddus neu ymosodiadau terfysgol. Beth bynnag ddigwyddith yn ystod eich diwrnod, byddwch mewn sefyllfa unigryw i wneud Gogledd Cymru y lle mwyaf diogel i fod ynddo yn y DU.
Mae’r cyfnod ar gyfer ceisiadau ar agor ar hyn o bryd nes 29 Awst ac mae rhagor o fanylion i’w cael ar wefan Heddlu Gogledd Cymru – https://www.northwales.police.uk/cy-GB/