New research has uncovered that a number of councils expect to overspend their allocation of funding to deliver the Welsh Government’s blanket free school meals policy. Commenting on the findings, Sam Rowlands MS, Shadow Minister for Local Government in the Welsh Parliament, said:
My colleagues and I have argued against this policy on the grounds that a blanket, untargeted approach means spending taxpayers’ cash on feeding the children of those parents who can afford it.
It seems from these figures that Flintshire and Gwynedd councils are set to overspend, frontloading the costs of this scheme in the expectation that future budget increases will cover the inevitable upcoming shortfalls, which is very distressing.
The numbers so far do not add up, indicating that this is turning out to be yet another uncosted Welsh Government project set to eat a hole in Wales’ budget and shred councils’ reserves, resulting in less money for other essential frontline services and inevitable Council Tax hikes.
- Flintshire council expect to spend at least £1.8 million for 2022/23 which would exceed their capital funding grant allocation by over £500,000.
- Gwynedd council are expecting to spend £1.6 million, a nearly £500,000 overspend.
Ymchwil newydd yn datgelu cost gynyddol y polisi prydau ysgol am ddim
Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod nifer o gynghorau yn disgwyl gorwario eu dyraniad cyllid i ddarparu polisi prydau ysgol am ddim cyffredinol Llywodraeth Cymru. Yn rhoi sylwadau ar y canfyddiadau, dywedodd Sam Rowlands AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth leol yn y Senedd:
Mae fy nghydweithwyr a minnau wedi dadlau yn erbyn y polisi ar y sail bod dull cyffredinol heb ei dargedu yn golygu gwario arian trethdalwyr ar fwydo plant y rhieni hynny sy’n gallu ei fforddio.
Ymddengys o’r ffigurau hyn bod Cynghorau Sir y Fflint a Gwynedd yn debygol o orwario, gan flaen-lwytho costau’r cynllun hwn wrth ddisgwyl y bydd cynnydd mewn cyllidebau yn y dyfodol yn talu’r diffygion anochel, ac mae hynny’n peri gofid mawr.
Nid yw’r ffigurau’n gwneud synnwyr hyd yma, ac yn ôl pob golwg bydd hwn yn brosiect arall heb ei gostio gan Lywodraeth Cymru sy’n debygol o greu diffyg yng nghyllideb Cymru a chronfeydd wrth gefn cynghorau, a fydd yn golygu llai o arian ar gyfer gwasanaethau rheng flaen hanfodol eraill a chynnydd anochel yn y Dreth Gyngor.
- Mae Cyngor Sir y Fflint yn disgwyl gwario o leiaf £1.8 miliwn ar gyfer 2022/23 a fyddai £500,000 yn uwch na’u grant cyllid cyfalaf sydd wedi’i ddyrannu.
- Disgwylir i gyngor Gwynedd wario £1.6 miliwn, gorwariant o bron i £500,000.