Sam Rowlands MS has welcomed a new investment in promoting Wrexham town centre.
Mr Rowlands, Conservative Member of the Welsh Parliament for North Wales, said:
This new investment should see two new staff join the team at the newly refurbished Wrexham Visitor Information Centre on Chester Street.
The new Visitor Information Centre Assistants will join a busy team promoting tourism in Wrexham County Borough and provide an important role in welcoming visitors from all over the world.
There is a real buzz around Wrexham especially with the investment in the local football team and I am delighted to see the great strides the newly crowned city is making with plenty of events planned for the future.
I would urge anyone who wants to help promote the city in a busy customer facing role to make sure they apply.
The Town Centre Arts & Events team are looking to appoint two self-motivated, assistants to provide outstanding visitor information centre experience and welcome.
If you love Wrexham and are passionate about providing a great customer experience for people who visit the city this could be the job for you.
The recently refurbished modern centre will not only continue to provide a wealth of local knowledge and information about Wrexham but over the coming weeks it will showcase the very best of the area’s hospitality businesses, local food and drink and some pop-up events to tempt the taste buds.
The posts, which require you to be a fluent Welsh speaker, are permanent with 27 hours a week on offer including Saturday. The closing date is October 9 2022.
For more details: Find out more and apply now.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at fuddsoddiad parhaus yng nghanol tref Wrecsam
Mae Sam Rowlands AS wedi croesawu buddsoddiad newydd er mwyn hyrwyddo canol tref Wrecsam.
Dywedodd Mr Rowlands, Aelod Ceidwadol o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru:
Dylai'r buddsoddiad newydd hwn olygu y bydd dau aelod staff newydd yn ymuno â'r tîm yng Nghanolfan Groeso Wrecsam ar Stryd Caer sydd ar ei newydd wedd.
Bydd Cynorthwywyr newydd y Ganolfan Groeso yn ymuno â thîm prysur sy'n hyrwyddo twristiaeth ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam ac yn darparu rôl bwysig wrth groesawu ymwelwyr o bob cwr o'r byd.
Mae yna gyffro gwirioneddol o amgylch Wrecsam yn enwedig gyda'r buddsoddiad yn y tîm pêl-droed lleol, ac rydw i'n falch iawn o weld y camau breision y mae Wrecsam, sydd newydd ei choroni'n ddinas, yn eu cymryd ac mae llu o ddigwyddiadau wedi'u trefnu i’r dyfodol.
Byddwn i'n annog unrhyw un sydd am helpu i hyrwyddo'r ddinas mewn rôl brysur sy'n ymdrin â'r cyhoedd i wneud yn siŵr eu bod yn ymgeisio.
Mae tîm Celfyddydau a Digwyddiadau Canol y Dref yn gobeithio penodi dau gynorthwyydd brwdfrydig sy'n gallu cymell eu hunain a sicrhau profiad a chroeso rhagorol i ymwelwyr.
Os ydych chi'n caru Wrecsam ac yn angerddol dros ddarparu profiad gwych i gwsmeriaid i'r bobl hynny sy'n ymweld â'r ddinas, efallai mai dyma'r swydd i chi.
Bydd y ganolfan fodern ar ei newydd wedd nid yn unig yn parhau i ddarparu llawer iawn o wybodaeth leol am Wrecsam, ond dros yr wythnosau nesaf bydd yn arddangos y gorau o fusnesau lletygarwch yr ardal, bwydydd a diodydd lleol a rhai digwyddiadau gwib gyda danteithion blasus i'ch temtio.
Mae'r swyddi, sy'n gofyn i chi fod yn siaradwr Cymraeg rhugl, yn rhai parhaol am 27 awr yr wythnos gan gynnwys dydd Sadwrn. Y dyddiad cau yw 9 Hydref 2022.
Am ragor o fanylion: I wybod mwy a gwneud cais nawr.