Sam Rowlands MS for North Wales is backing a council initiative to help people looking for work in the run up to Christmas.
Mr Rowlands, Conservative member of the Welsh Parliament, is backing Flintshire County Council’s Festive Jobs Roadshow which runs in the county over the next two weeks.
He said:
This is an excellent initiative and I am delighted to promote this event which will give people the chance to see the job opportunities available in the area.
It is a great idea not only if you are looking for a job but it will also help employers who are seeking staff at this time.
Whether you are just looking for work leading up to Christmas or longer term it is well worth attending one of the sessions to find out more.
For the next two weeks a team from Communities for Work and Jobcentre Plus will be at various venues with information about vacancies available now, over the Christmas period and beyond.
The roadshow, which runs from 10am-2pm, starts tomorrow, Tuesday October 25 at Flint Library; Wednesday October 26, Mold Market; Thursday October 27, Refurbs Community Café, 9, Brunswick Road. Buckley; Tuesday November 1, Broughton (Costa Coffee foyer) and Thursday November 3, Deeside Leisure Centre.
For more information contact Communities for Work, Nia Parry at nia.parry@flintshire.gov.uk, 07770633453 or Janiene Davies, Janiene.davies@flintshire.gov.uk.
Sam Rowlands AS yn cefnogi Sioe Deithiol Swyddi y Nadolig yn Sir y Fflint
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn cefnogi menter gan y cyngor i helpu pobl sy’n chwilio am waith wrth i’r Nadolig agosáu.
Mae Mr Rowlands, aelod Ceidwadol o’r Senedd, yn cefnogi Sioe Deithiol Swyddi y Nadolig Cyngor Sir y Fflint sy’n cael ei chynnal yn y sir dros y pythefnos nesaf.
Meddai:
Dyma fenter ragorol ac rwy’n falch iawn o hyrwyddo’r digwyddiad hwn a fydd yn rhoi’r cyfle i bobl weld y cyfleoedd gwaith sydd ar gael yn yr ardal.
Mae’n syniad gwych nid yn unig os ydych chi’n chwilio am waith ond bydd hefyd yn helpu cyflogwyr sy’n chwilio am weithwyr dros y cyfnod hwn.
Os ydych chi’n chwilio am waith wrth i’r Nadolig agosáu neu yn y tymor hirach, mae’n werth mynychu un o’r sesiynau i gael rhagor o wybodaeth.
Am y pythefnos nesaf, bydd tîm o Cymunedau am Waith a’r Ganolfan Byd Gwaith mewn lleoliadau amrywiol gyda gwybodaeth am swyddi gwag sydd ar gael nawr, dros gyfnod y Nadolig a thu hwnt.
Mae’r sioe deithiol, sy’n para rhwng 10am - 2pm, yn dechrau yfory, dydd Mawrth 25 Hydref yn Llyfrgell y Fflint; dydd Mercher 26 Hydref ym Marchnad yr Wyddgrug; dydd Iau 27 Hydref, yng Nghaffi Cymunedol Refurbs, 9, Heol Brunswick. Bwcle; dydd Mawrth 1 Tachwedd, ym Mrychdyn (cyntedd Costa Coffee) a dydd Iau 3 Tachwedd, yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â Cymunedau am Waith, Nia Parry yn nia.parry@flintshire.gov.uk, 07770633453 neu Janiene Davies, Janiene.davies@flintshire.gov.uk.