Sam Rowlands MS for North Wales is calling for local councils to do more to help people take advantage of an energy scheme.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government was commenting after visiting Llandudno based, Blue Turtle, a company processing applications for the Energy Company Obligation 4 scheme.
He said:
The ECO4 scheme is an initiative which requires energy companies to fund grants from their profits into improving the energy efficiency of people’s homes.
ECO was first introduced by the Conservative/Liberal Democrat coalition government in 2014 and this new four-year scheme began in April and is intended to run until March 31 2026.
Its main objective is to improve the least energy efficient housing stock occupied by low income and vulnerable households.
It is a great scheme, offering grants which can potentially help to fund things like new insulation or heating systems.
It is currently only available to those on benefits, with health conditions, or those with other qualifying criteria set out by their local authorities.
I believe it is vitally important that more people have the opportunity to take advantage of such a scheme particularly as this time.
I will be actively urging Conwy County Borough Council and Denbighshire County Council to set their local criteria so more people can benefit and I will be raising the matter in the Senedd.
During his visit to Blue Turtle Mr Rowlands met with Jody Johnson, Managing Director of Blue Turtle who process applications for the funding from all across the UK.
Apart from being involved in ECO schemes, Blue Turtle helps people secure grants and funding to live a greener, more efficient way of life whilst saving money on the running costs of their homes.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at gynllun sy’n helpu pobl i wella effeithlonrwydd ynni yn eu cartrefi
Mae Sam Rowlands, yr AS dros Ogledd Cymru, yn galw ar gynghorau lleol i wneud mwy i helpu pobl i fanteisio ar gynllun ynni.
Roedd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid yn rhoi sylwadau ar ôl ymweld â Blue Turtle yn Llandudno, sef cwmni sy’n prosesu ceisiadau ar gyfer cynllun Rhwymedigaeth 4 Cynllun Ynni (ECO4).
Meddai:
Menter yw’r cynllun ECO4 sy’n ei gwneud hi’n ofynnol i gwmnïau ynni gyllido grantiau o’u helw i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi pobl.
Cyflwynwyd ECO am y tro cyntaf gan lywodraeth clymblaid y Ceidwadwyr/ Democratiaid Rhyddfrydol yn 2014 a dechreuodd y cynllun pedair blynedd hwn ym mis Ebrill a bwriedir ei gynnal tan 31 Mawrth 2026.
Ei brif nod yw gwella’r stoc tai sy’n defnyddio ynni yn lleiaf effeithlon sydd ag aelwydydd incwm isel a bregus.
Mae’n gynllun gwych, sy’n cynnig grantiau a all helpu i gyllido pethau fel systemau inswleiddio neu wresogi newydd.
Ar hyn o bryd, dydy o ond ar gael i’r rhai ar fudd-daliadau, sydd â chyflyrau iechyd, neu’r rhai sy’n bodloni meini prawf cymhwyso eraill a nodir gan eu hawdurdodau lleol.
Rwy’n credu ei bod yn hollbwysig bod mwy o bobl yn cael y cyfle i fanteisio ar gynllun fel hyn, yn enwedig ar adeg fel hon.
Byddaf yn mynd ati’n frwd i annog Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych i osod eu meini prawf lleol fel y gall mwy o bobl elwa a byddaf yn codi’r mater yn y Senedd.
Yn ystod ei ymweliad â Blue Turtle, cyfarfu Mr Rowlands â Jody Johnson, Rheolwr Gyfarwyddwr Blue Turtle sy’n prosesu ceisiadau ar gyfer cyllid o bob rhan o’r DU.
Yn ogystal â chymryd rhan mewn cynlluniau ECO, mae Blue Turtle yn helpu pobl i sicrhau grantiau a chyllid i fyw bywyd gwyrddach, mwy effeithlon tra’n arbed arian ar gostau cynnal eu cartrefi.