Sam Rowlands MS for North Wales recently attended an event to promote wool – the new Welsh Gold.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, joined fellow MSs in the Senedd at a presentation organised by the Welsh Wool Alliance.
He said:
I was delighted to have the opportunity to learn more about the work of the Welsh Wool Alliance and how they are trying to promote their product.
As a nation we do produce a lot of wool, in fact every year, 10 times more than the USA and Canada combined, which is quite staggering and it saddens me to hear that despite this the industry is in decline.
It is now costing our farmers more to shear the wool than they get for making it. When you consider this is a natural sustainable resource it is even more amazing and I fully support any initiatives to promote wool.
Wales has 7,000 sheep farmers, over 70 breeds of sheep, and the most diverse flock in the world. Yet the industry is in decline, with wool being underused and undervalued. Our once prosperous 300 mills are now less than five.
The Welsh Wool Alliance said the wonders of this natural fibre are becoming more well-known as it is an abundant renewable sustainable resource.
They believe wool is on everyone’s mind and Wales has the chance to become the global paradigm for a circular sustainable industry.
The Welsh Wool Alliance is an unfunded coalition of projects, individuals, businesses and enterprises which all have an interest in Wool in Wales. They set out to align the passion to map out a commercial future.
The recent event in Cardiff was also supported by industry bodies such as British Wool and the NSA. There was also a demonstration of how Welsh wool is being spun into gold.
Sam Rowlands AS yn clywed am syniadau arloesol ar gyfer defnyddio gwlân Cymru
Yn ddiweddar, bu Sam Rowlands, AS dros Ogledd Cymru, mewn digwyddiad i hyrwyddo gwlân - Aur newydd Cymru.
Ymunodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid dros y Ceidwadwyr, ag Aelodau eraill o’r Senedd mewn cyflwyniad a drefnwyd gan Gynghrair Gwlân Cymru.
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o gael y cyfle i ddysgu mwy am waith Cynghrair Gwlân Cymru a sut mae’n ceisio hyrwyddo’r cynnyrch.
Fel cenedl, rydyn ni’n cynhyrchu llawer iawn o wlân, yn wir rydyn ni’n cynhyrchu 10 gwaith yn fwy na’r UDA a Chanada gyda’i gilydd bob blwyddyn, sy’n syfrdanol mewn gwirionedd. Trist yw clywed bod y diwydiant yn dirywio er gwaethaf hynny.
Mae bellach yn costio mwy i ffermwyr gneifio gwlân na’r hyn maen nhw’n ei dderbyn am ei gynhyrchu. O ystyried bod hwn yn adnodd cynaliadwy naturiol mae hynny hyd yn oed yn fwy anhygoel ac rwyf yn llwyr o blaid unrhyw fentrau i hyrwyddo gwlân.
Mae gan Gymru dros 7,000 o ffermwyr defaid, dros 70 brîd o ddefaid, a’r ddiadell fwyaf amrywiol yn y byd. Ond mae’r diwydiant yn dirywio, ac nid oes digon o ddefnydd o wlân na digon o werth yn cael ei roi iddo. Lle arferai fod 300 o felinau yma, mae llai na phump bellach.
Dywedodd Cynghrair Gwlân Cymru bod rhyfeddodau’r ffeibr naturiol hwn yn dod yn fwy hysbys gan ei fod yn adnodd cynaliadwy adnewyddadwy ac mae digonedd ohono ar gael.
Maen nhw’n o’r farn bod gwlân ar feddyliau pawb a bod cyfle i Gymru fod yn arloeswr byd-eang dros ddiwydiant cynaliadwy cylchol.
Nid yw Cynghrair Gwlân Cymru yn cael ei gyllido ac mae’n gasgliad o brosiectau, unigolion, busnesau a mentrau sydd oll â budd mewn gwlân yng Nghymru. Maen nhw’n gobeithio gwneud yr angerdd yn gydnaws â llunio dyfodol masnachol.
Cafodd y digwyddiad diweddar yng Nghaerdydd gefnogaeth gan gyrff y diwydiant fel British Wool a’r NSA. Cafwyd hefyd arddangosiad o sut mae gwlân Cymru yn cael ei nyddu’n aur.