Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, was delighted to see his region will receive more funding for this defence focused centre of excellence.
He said:
I am really pleased to hear that up to £10m extra funding has been announced for the planned Advanced Technology Research Centre in Deeside.
In his Autumn budget statement, the Chancellor, Jeremy Hunt, specifically mentioned the defence-focused centre of excellence site in North Wales as a priority for the UK Government to support.
This multi million pound advanced technology research centre, which will be sited on the Ministry of Defence land next to the Deeside Industrial Park interchange, will create many high skilled and well paid jobs in Flintshire.
Along with the continued success of the Airbus site in Broughton, it really will put North Wales on the map when it comes to innovation and will be a great boost to the local economy.
It will be great to see the knock-on effect for the whole area and hopefully we can attract even more new businesses to my region.
In June 2022 the Welsh Government signed heads of terms for the preferred site in Sealand, for an advanced technology research centre, with partners the Ministry of Defence and work is now underway to design the facility.
Sam Rowlands AS yn croesawu cefnogaeth Llywodraeth y DU i’r Ganolfan Ymchwil Uwch-dechnoleg yng Nglannau Dyfrdwy
Roedd Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn falch iawn o weld y bydd ei ranbarth yn derbyn rhagor o gyllid ar gyfer y ganolfan ragoriaeth hon sy’n canolbwyntio ar amddiffyn.
Meddai:
Rwy’n falch iawn o glywed bod hyd at £10 miliwn o gyllid ychwanegol wedi’i gyhoeddi ar gyfer y Ganolfan Ymchwil Uwch-dechnoleg sydd ar y gweill yng Nglannau Dyfrdwy.
Yn natganiad cyllideb yr Hydref, soniodd y Canghellor Jeremy Hunt yn benodol am safle’r ganolfan ragoriaeth hon sy’n canolbwyntio ar amddiffyn fel blaenoriaeth i Lywodraeth y DU ei chefnogi.
Bydd y ganolfan ymchwil uwch-dechnoleg hon sydd werth miliynau, ac a fydd wedi’i lleoli ar dir y Weinyddiaeth Amddiffyn ger cyfnewidfa Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, yn creu llawer o swyddi yn Sir y Fflint y bydd angen sgiliau ar eu cyfer ac a fydd yn talu’n dda.
Law yn llaw â llwyddiant parhaus safle Airbus ym Mrychdyn, bydd hyn yn rhoi Gogledd Cymru ar y map o ran arloesi a bydd yn hwb gwych i’r economi leol.
Bydd yn braf cael gweld effaith hyn ar yr ardal gyfan a gobeithio y gallwn ddenu hyd yn oed mwy o fusnesau i fy rhanbarth.
Ym mis Mehefin 2022, llofnododd Llywodraeth Cymru a phartneriaid yn y Weinyddiaeth Amddiffyn benawdau’r telerau ar gyfer y safle a ffefrir yn Sealand i’r ganolfan ymchwil uwch-dechnoleg, ac mae’r gwaith wedi dechrau ar gynllunio’r cyfleuster.