Sam Rowlands, a member of the Welsh Parliament for North Wales, wants people in his region to support small businesses and shop locally in the run up to Christmas.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, closed a Welsh Conservative debate on Small Business Saturday December 3, which noted that Small Business Saturday will take place on December 3 2022, recognised the vital contribution small businesses make in sustaining local economies, developing communities and creating jobs and called on the Welsh Government to use the levers it has to better support businesses in Wales. The motion received Cross-Party support and was passed.
Mr Rowlands said:
This will be the tenth year in which we mark Small Business Saturday and celebrate with our counterparts across the United Kingdom the 5.6 million small businesses. In Wales they make up a whopping 99.4 % of all businesses, contributing 62.45% of private sector employment and 37.9% of turnover—a really significant part of our economy.
Small businesses are often at the forefront of our local communities and tackling many of the social challenges that we see around us. And they do so much in showing the very best in our local communities. Now is the time to do everything we can in supporting them, providing an environment for them to flourish.
I have always been a great supporter of this annual event, which inspires more and more people to support local business and buy locally sourced food and other products from their community.
Small Business Saturday UK is a fantastic initiative which has proved highly successful and very important for our local economy. I would urge all communities in North Wales to celebrate the day and support their own small businesses in the run up to Christmas and beyond.
Small Business Saturday UK is a grassroots, non-political, non-commercial campaign, which highlights small business success and encourages consumers to ‘shop local’ and support small businesses in their communities.
The day itself takes place this year on Saturday December 3 but the initiative aims to have a lasting impact on small businesses.
On Small Business Saturday customers are urged to go out and support all types of small businesses, online, in offices and stores with many hosting events and offering discounts.
For more information or to get involved with Small Business Saturday visit the Facebook page or the website www.smallbusinesssaturdayuk.com
Sam Rowlands AS yn annog pawb i gefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach
Mae Sam Rowlands, aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, am i bobl ledled ei ranbarth gefnogi busnesau bach a siopa'n lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Fe wnaeth Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol, gloi dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, a nododd y byddai'n digwydd ar 3 Rhagfyr 2022, yn cydnabod cyfraniad hanfodol busnesau bach at gynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi, a galwodd ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau’n well yma yng Nghymru. Cafodd y cynnig gefnogaeth drawsbleidiol a'i basio.
Meddai Mr Rowlands:
Dyma fydd degfed flwyddyn Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, gyda chyfle i ddathlu’r 5.6 miliwn o fusnesau bach gyda'n cymheiriaid ledled y DU. Yng Nghymru, maen nhw'n cynrychioli 99.4% o'r holl fusnesau, gan gyfrannu 62.45% o gyflogaeth yn y sector preifat a 37.9% o drosiant – rhan hollbwysig o'n heconomi.
Mae busnesau bach ar flaen y gad yn ein cymunedau lleol yn aml ac yn mynd i'r afael â llawer o'r heriau cymdeithasol sydd o'n cwmpas. Ac maen nhw'n gwneud cymaint wrth ddangos y gorau ar lawr gwlad. Nawr yw'r amser i wneud popeth o fewn ein gallu i'w cefnogi, gan ddarparu amgylchedd iddyn nhw ffynnu.
Dwi'n gefnogwr brwd o'r digwyddiad blynyddol hwn erioed, sy'n ysbrydoli mwy a mwy o bobl i gefnogi busnesau lleol a phrynu bwyd o ffynonellau lleol a chynhyrchion eraill o'u cymuned.
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn fenter wych sy'n hynod lwyddiannus a phwysig i'n heconomi leol. Byddwn i'n annog pob cymuned yn y Gogledd i ddathlu'r diwrnod a chefnogi eu busnesau bach eu hunain yn y cyfnod cyn y Nadolig a thu hwnt.
Mae Small Business Saturday UK yn ymgyrch llawr gwlad, anwleidyddol, anfasnachol, sy'n tynnu sylw at lwyddiant busnesau bach ac yn annog defnyddwyr i 'siopa'n lleol' a chefnogi busnesau bach yn eu cymunedau.
Eleni, cynhelir y diwrnod ddydd Sadwrn 3 Rhagfyr, ond nod y fenter yw cael effaith barhaol ar fusnesau bach.
Ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, caiff cwsmeriaid eu hannog i gefnogi pob math o fusnesau bach, ar-lein, mewn swyddfeydd a siopau, gyda llawer yn cynnal digwyddiadau a chynnig gostyngiadau.
Am ragor o wybodaeth neu i gymryd rhan yn Nydd Sadwrn y Busnesau Bach ewch i'r dudalen Facebook neu'r wefan www.smallbusinesssaturdayuk.com