Sam Rowlands MS has expressed his delight at hearing more jobs could be created on the Staycold Export site in the Deeside Enterprise Zone.
Sam was commenting during a visit to the rapidly growing business.
He said:
I was delighted to keep cool and hear all about the success of Staycold Export.
This global leader, which designs and sells fridges moved to a new site on the Deeside Enterprise Zone in January 2019.
The company continues to grow and I welcome news that expansion plans for the Deeside base will create more jobs here in North East Wales.
This international firm export over one third of their fridges and it is great to see Welsh and British businesses doing so well worldwide.
I wish them every success for the future.
Staycold Export Ltd is a manufacturer of commercial refrigeration with a global presence, dedicated to supporting the needs of leading food and beverage brands.
Most of its business is in the outdoor living and hospitality sectors which has seen an increase in interest during the Covid pandemic.
One of its successes is its back bar coolers which have been rated by the Carbon Trust as number 1 for both performance and energy efficiency.
Sam Rowlands AS yn croesawu cynlluniau cwmni byd-eang i ehangu gyda lleoliad ar Lannau Dyfrdwy
Mae Sam Rowlands AS wedi mynegi ei gyffro o glywed y gallai rhagor o swyddi gael eu creu ar safle Staycold Export ym Mharth Menter Glannau Dyfrdwy.
Roedd Sam yn rhoi ei sylwadau yn ystod ymweliad â’r busnes sy’n tyfu’n gyflym.
Meddai:
Roeddwn i ar ben fy nigon yn clywed am lwyddiant Staycold Export.
Symudodd yr arweinydd byd hwn, sy’n cynllunio a gwerthu oergelloedd, i safle newydd ar Barth Menter Glannau Dyfrdwy fis Ionawr 2019.
Mae’r cwmni’n parhau i dyfu ac rwy’n croesawu’r newyddion y bydd cynlluniau ehangu ar gyfer y lleoliad yng Nglannau Dyfrdwy yn creu rhagor o swyddi yma yn y Gogledd-ddwyrain.
Mae’r cwmni rhyngwladol yn allforio dros un o bob tri o’u hoergelloedd a da yw gweld busnesau Cymru a Phrydeinig yn gwneud cystal bedwar ban byd.
Pob llwyddiant iddynt yn y dyfodol.
Mae Staycold Export Ltd yn wneuthurwr oergelloedd masnachol sydd â phresenoldeb byd-eang ac mae wedi ymrwymo i gefnogi anghenion brandiau bwyd a diod blaenllaw.
Mae’r rhan fwyaf o’u busnes yn y sectorau lletygarwch a byw yn yr awyr agored sydd wedi gweld cynnydd a ffyniant yn ystod y pandemig Covid.
Un o’u llwyddiannau yw eu hoeryddion bar cefn sydd wedi’u graddio gan yr Ymddiriedolaeth Garbon fel y gorau un o ran perfformiad ac effeithlonrwydd ynni.