Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a council’s plea for residents to give their food some thought.
He said:
Flintshire County Council is asking people to look and think about the food they buy this holiday season and I am happy to back their appeal.
Nowadays we all think a lot more about recycling and how it affects the environment and getting rid of food is no different.
Flintshire recycled almost 4,700 tonnes of food waste, in the year to March 22 and it is great to see residents are using the dedicated food bins as recycling food can have many benefits including producing electricity.
I am backing Flintshire council’s timely reminder that especially over the Christmas and New Year period think about where you dispose of your left over food.
Flintshire’s food waste is taken to an anaerobic digestion facility in Rhuallt, where it is turned into biogas and bio-fertiliser. This produces electricity to power homes and fertilisers for farmers to grow our food.
If you do end up with excess food, consider donating it to a local food bank or community fridge so that others in the community can make use of it. Please note only unused/unopened food can be donated to these facilities. Also if you have let over food you could consider composting it for use in your garden as a soil conditioner.
There are so many benefits to using the weekly food waste collection service as it is a more environmentally friendly way of waste disposal; helps the council to achieve national recycling targets and minimises smells and odour from food waste rotting for two weeks in the black bin and reduces the risk of vermin.
Every bit of wasted food has an environmental impact - transport, fuel, water, energy - it all adds up. And while governments and businesses have an important part to play, 70% of food that’s wasted in the UK is done by us in our own homes. One-quarter of this, a staggering 1.1 million tonnes, is wasted every year simply because we prepare, cook, or serve too much.
Sam Rowlands AS yn egluro sut mae gwastraff bwyd yn cael ei ailgylchu yn Sir y Fflint
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi apêl cyngor i drigolion feddwl mwy am eu bwyd.
Meddai:
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i bobl edrych a meddwl am y bwyd maen nhw'n ei brynu dros y gwyliau ac rwy'n hapus i gefnogi eu hapêl.
Y dyddiau hyn, rydyn ni i gyd yn meddwl llawer mwy am ailgylchu a sut mae'n effeithio ar yr amgylchedd a dyw cael gwared ar fwyd ddim gwahanol.
Fe wnaeth Sir y Fflint ailgylchu bron i 4,700 tunnell o wastraff bwyd, yn y flwyddyn hyd at 22 Mawrth, ac mae'n wych gweld trigolion yn defnyddio'r biniau bwyd pwrpasol oherwydd gall ailgylchu bwyd fod yn fuddiol mewn sawl ffordd, gan gynnwys cynhyrchu trydan.
Rwy'n cefnogi ymgyrch Sir y Fflint i gael pobl i feddwl ble maen nhw’n cael gwared ar eu bwyd dros ben, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd.
Mae gwastraff bwyd Sir y Fflint yn cael ei gludo i gyfleuster treulio anaerobig yn Rhuallt, lle mae'n cael ei droi'n fionwy a bio-wrtaith. Mae hyn yn cynhyrchu trydan i bweru cartrefi a gwrtaith i ffermwyr dyfu ein bwyd.
Os ydych chi'n gwneud gormod o fwyd, ystyriwch ei roi i fanc bwyd lleol neu oergell gymunedol fel bod eraill yn y gymuned yn gallu gwneud defnydd ohono. Nodwch mai dim ond bwyd sydd heb ei ddefnyddio/heb ei agor y gellir ei roi i'r cyfleusterau hyn. Hefyd os oes gennych chi fwyd dros ben gallech ystyried ei gompostio i'w ddefnyddio yn eich gardd fel cyflyrydd pridd.
Mae cymaint o fanteision i ddefnyddio'r gwasanaeth casglu gwastraff bwyd wythnosol gan ei fod yn ffordd fwy ecogyfeillgar o waredu gwastraff; mae’n helpu'r cyngor i gyrraedd targedau ailgylchu cenedlaethol ac yn lleihau arogleuon a drewdod pan fydd gwastraff bwyd yn pydru am bythefnos yn y bin du ac yn lleihau'r risg o lygod mawr.
Mae pob darn o fwyd sy'n cael ei wastraffu yn cael effaith amgylcheddol - trafnidiaeth, tanwydd, dŵr, ynni - mae'r cyfan yn cyfrif. Ac er bod gan lywodraethau a busnesau ran bwysig i'w chwarae, mae 70% o'r bwyd sy'n cael ei wastraffu yn y DU yn cael ei wneud gennym ni yn ein cartrefi ein hunain. Mae chwarter hyn, sy'n swm syfrdanol o 1.1 miliwn tunnell, yn cael ei wastraffu bob blwyddyn gan ein bod yn paratoi, coginio, neu weini gormod.