Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is routing for a young chef from Wrexham, who is taking part in an international event next month.
He said:
I am delighted to hear that Wrexham born, Sion Hughes, 25, head chef at The Spa at Carden Park, near Chester, has been chosen to represent Wales at a Global Chefs Challenge European heat in Italy.
What a wonderful opportunity for Sion. As a former Junior Chef of Wales winner he has competed in many international competitions and is obviously a seasoned and extremely talented competitor.
It is great to see young people from my region flourishing and taking centre stage in international events and I wish him every luck in next month’s competition.
In the Global Chefs Challenge Sion will be competing against some of the best chefs in North Europe with the top two qualifying for the global final at the Worldchefs Congress & Expo 2024 in Singapore.
Sion is no stranger to international competitions having been a member of the Junior Culinary Team Wales which won silver and bronze medals at the Culinary World Cup in Luxembourg last November.
He said:
I am excited to be representing Wales in this individual competition. I have done individual competitions in the past but this will be a completely new experience and will be my first time as a senior chef. The Culinary Olympics is just over a year away, so hopefully I will get the chance to compete for Wales again.
Sam Rowlands AS yn cefnogi cogydd o Wrecsam sydd wedi'i ddewis i gynrychioli ei wlad
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn gobeithio'r gorau i gogydd ifanc o Wrecsam mewn digwyddiad rhyngwladol fis nesaf.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o glywed bod Sion Hughes, 25 oed, sy'n enedigol o Wrecsam ac yn brif gogydd The Spa at Carden Park, Caer, wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru mewn rownd Ewropeaidd Her Cogyddion Byd-eang yn yr Eidal.
Am gyfle gwych i Sion. Fel cyn-enillydd Cogydd Ifanc Cymru mae wedi cymryd rhan mewn llu o gystadlaethau rhyngwladol ac mae'n amlwg yn gystadleuydd profiadol a hynod dalentog.
Mae'n wych gweld pobl ifanc o'm rhanbarth yn ffynnu ac yn camu i'r llwyfan mewn digwyddiadau rhyngwladol, ac rwy'n dymuno pob lwc iddo yn y gystadleuaeth fis nesaf.
Yn yr Her Cogyddion Byd-eang bydd Sion yn cystadlu yn erbyn rhai o gogyddion gorau Gogledd Ewrop gyda'r ddau uchaf yn mynd drwodd i'r rownd derfynol fyd-eang yng Nghyngres Worldchefs & Expo 2024 yn Singapore.
Dyw Sion ddim yn ddieithr i gystadlaethau rhyngwladol, fel cyn-aelod o Dîm Coginio Iau Cymru a enillodd fedalau arian ac efydd yng Nghwpan y Byd Coginio yn Lwcsembwrg fis Tachwedd diwethaf.
Dywedodd:
Dwi'n edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth unigol yma. Dwi wedi gwneud cystadlaethau unigol yn y gorffennol ond bydd hwn yn brofiad hollol newydd a dyma fydd y tro cyntaf i mi fod yn uwch-gogydd. Mae'r Gemau Olympaidd Coginio ychydig dros flwyddyn i ffwrdd, felly gobeithio y caf gyfle i gystadlu dros Gymru eto.