Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, welcomes new trains being introduced by Transport for Wales.
He said:
I was delighted to see the new Class 197 being launched in Llandudno and congratulations to Tabitha Shields from Ysgol Tudno, who won the competition to name the first train.
As one of the most popular places for local people and visitors in the town is Happy Valley I was pleased to see this was chosen as the name.
Last year I was invited to Chester railway station for the launch of the new first class 197 train and it is great to see that it is now going to be operating across North Wales.
It is also good to see this long over-due investment in rail travel for North Wales, which I know will be welcomed by many of my constituents.
The new train was unveiled at a special ceremony and official launch at Llandudno railway station and Tabitha, was presented with a prize for being selected as one of the winners of the Transport for Wales Magnificent Train Journey competition.
The Class 197s are among the first brand-new trains to enter service since TfW took over the operation of the Wales and Borders rail service, as part of our £800 million investment into new trains.
The new vehicles will be much improved and wif-fi enabled providing increased capacity, leather seats, air-conditioning, accessible toilets, wider doors and customer information screens and will provide a faster, more frequent services over key routes and will provide much-needed increased capacity.
Sam Rowlands AS yn falch o weld trenau newydd yn cael eu cyflwyno yn y Gogled
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn croesawu’r trenau newydd sydd wedi’u cyflwyno gan Trafnidiaeth Cym
Meddai:
Roeddwn i’n falch iawn o weld y Dosbarth 197 newydd yn cael ei lansio yn Llandudno a llongyfarchiadau i Tabitha Shields o Ysgol Tudno, a enillodd y gystadleuaeth i enwi'r trên cyntaf.
Gan mai Happy Valley, neu’r Fach yn Gymraeg, yw un o'r llefydd mwyaf poblogaidd i bobl leol ac i ymwelwyr yn y dref, roeddwn i’n falch o weld mai dyna’r enw a ddewiswyd.
Y llynedd, cefais wahoddiad i orsaf reilffordd Caer ar gyfer lansiad y trên newydd Dosbarth 197 ac mae'n wych clywed ei fod nawr yn mynd i gael ei ddefnyddio ledled y Gogledd.
Da hefyd yw gweld y buddsoddiad hirddisgwyliedig yma mewn teithio ar y cledrau yn y Gogledd, ac rwy’n gwybod y bydd llawer o'm hetholwyr yn ei groesawu.
Datgelwyd y trên newydd mewn seremoni arbennig a lansiad swyddogol yng ngorsaf reilffordd Llandudno a derbyniodd Tabitha wobr am gael ei dewis fel un o enillwyr cystadleuaeth y Daith Drên Odidog Trafnidiaeth Cymru.
Mae'r trenau Dosbarth 197 ymhlith y trenau newydd sbon cyntaf i ddechrau gwasanaethu ers i TrC gymryd yr awenau a rhedeg rheilffyrdd Cymru a'r Gororau, fel rhan o'n buddsoddiad £800 miliwn mewn trenau newydd.
Bydd y cerbydau newydd yn cael eu gwella'n fawr, gyda wi-fi at ddefnydd teithwyr, seddi lledr, system awyru, toiledau hygyrch, drysau mwy llydan a sgriniau gwybodaeth i gwsmeriaid. Bydd hefyd yn darparu gwasanaethau cyflymach, amlach ar lwybrau allweddol a bydd lle i lawer mwy o deithwyr, sy’n rhywbeth gwir ei angen.