Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging constituents to have their say on keeping a city centre safe for everyone.
Wrexham County Borough Council is carrying out a consultation into the Public Protection Order, PSPO, which was introduced on March 1 2020.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
Unfortunately it is a sign of the times that we need to have such restrictions in our town centres these days as it is really important that people feel safe.
The order is aimed at reducing anti-social behaviour and the use of alcohol in Wrexham city centre and I support any moves to keep our city centres free from crime.
I also welcome that the consultation is open to everyone who lives and works in the area and urge anyone who wants to have their say to share their views.
The PSPO allows Wrexham council to carry out enforcement across a defined area in the city centre on certain anti-social behaviours including use of drugs and alcohol, public urinating and intimidating.
The order was first introduced in Wrexham in 2017 and working with partners, including the Community Safety Partnership, they have seen many successful outcomes over the past few years.
The council want to make sure everyone feels safe in Wrexham city centre and that the area is free from anti-social behaviour while striking a balance between making sure enforcement powers are in place and providing support to vulnerable individuals when help is needed.
The order is due to run out on February 28 but the closing date for the consultation is February 20. For more information about the PSPO and whether you feel the measures are still supported and should continue, go to the council’s website.
Sam Rowlands AS yn cefnogi’r cynnig i barhau â Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus ar gyfer canol dinas Wrecsam
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog etholwyr i leisio’u barn ar gadw canol eu dinas yn ddiogel i bawb.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn cynnal ymgynghoriad i'r Gorchymyn, a gyflwynwyd ar 1 Mawrth 2020.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Mae’n anffodus bod angen i ni gael cyfyngiadau o'r fath yng nghanol ein trefi yn yr oes sydd ohoni, ond mae'n bwysig iawn bod pobl yn teimlo'n ddiogel.
Nod y gorchymyn yw lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r defnydd o alcohol yng nghanol dinas Wrecsam, ac rwy'n cefnogi unrhyw symudiadau i gadw canol ein dinasoedd yn rhydd rhag troseddu.
Rydw i hefyd yn croesawu’r ffaith bod yr ymgynghoriad ar agor i bawb sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal ac rwy’n annog unrhyw un sydd am ddweud eu dweud i rannu eu barn.
Mae'r Gorchymyn yn caniatáu i gyngor Wrecsam gymryd camau gorfodaeth mewn ardal ddiffiniedig yng nghanol y ddinas pan fo achosion o ymddygiadau gwrthgymdeithasol penodol gan gynnwys defnyddio cyffuriau ac alcohol, pasio dŵr yn gyhoeddus a chodi braw ar bobl.
Cafodd y gorchymyn ei gyflwyno yn gyntaf yn Wrecsam yn 2017 ac wrth weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, maen nhw wedi profi nifer o ganlyniadau llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae'r cyngor eisiau gwneud yn siŵr bod pawb yn teimlo'n ddiogel yng nghanol dinas Wrecsam a bod yr ardal yn rhydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol tra'n sicrhau cydbwysedd rhwng sicrhau bod pwerau gorfodi mewn lle a darparu cymorth i unigolion bregus os oes angen cymorth arnyn nhw.
Mae disgwyl i'r gorchymyn ddod i ben ar 28 Chwefror ond y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad yw 20 Chwefror. Am ragor o wybodaeth am y Gorchymyn ac i ddweud eich dweud ynghylch a ydych chi’n teimlo bod y mesurau hyn yn dal i gael eu cefnogi ac a ddylen nhw barhau, ewch i wefan y cyngor.