Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that Conwy County Borough Council has set out their eligibility criteria for an energy saving initiative.
Sam has been campaigning for councils in North Wales to do more to help people take advantage of the Energy Company Obligation, ECO4 scheme.
Last year he urged both Conwy County Borough Council and Denbighshire County Council to set their local criteria so more people can benefit.
He said:
I am pleased to see Conwy Council publish a statement of intent to deliver this scheme as this is something I have been calling for since last autumn.
The ECO4 initiative requires energy companies to fund grants from their profits into improve the energy efficiency of people’s homes and it is good to see a local authority in my region has signed up.
ECO was first introduced by the Conservative/Liberal Democrat coalition government in 2014 and this new four-year scheme began in April and is intended to run until March 31 2026.
Its main objective is to improve the least energy efficient housing stock occupied by low income and vulnerable households. It is a great scheme, offering grants which can potentially help to fund things like new insulation or heating systems.
It is currently only available to those on benefits, with health conditions, or those with other qualifying criteria set out by their local authorities.
I believe it is vitally important that more people have the opportunity to take advantage of such a scheme particularly as this time.
The statement sets out Conwy County Borough Council’s flexible eligibility criteria for the Energy Company Obligation (ECO4) scheme from April 2022 – March 2026.
The ECO4 scheme will focus on supporting low income and vulnerable households. The scheme will improve the least energy efficient homes helping to meet the Government’s fuel poverty and net zero commitments.
Conwy County Borough Council’s involvement is to simply vet applications ensuring qualifying conditions are met as grants are administered by agents or installers working on behalf of energy companies.
Sam Rowlands AS yn falch o weld cyngor yn y Gogledd yn helpu mwy o bobl i wella effeithlonrwydd ynni eu cartrefi
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion bod Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi penderfynu ar eu meini prawf cymhwystra ar gyfer menter arbed ynni.
Mae Sam wedi bod yn ymgyrchu i gael cynghorau yn y Gogledd i wneud mwy i helpu pobl i fanteisio ar gynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni, ECO4.
Y llynedd, anogodd Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chyngor Sir Ddinbych i benderfynu ar eu meini prawf lleol er mwyn i fwy o bobl allu elwa.
Dywedodd:
Rwy'n falch o weld Cyngor Conwy yn cyhoeddi datganiad o fwriad i gyflawni'r cynllun hwn gan fod hyn yn rhywbeth rydw i wedi bod yn galw amdano ers hydref y llynedd.
Mae'r fenter ECO4 yn gofyn i gwmnïau ynni ariannu grantiau o'u helw i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi ac mae'n dda gweld bod awdurdod lleol yn fy rhanbarth wedi ymuno â’r cynllun.
Cyflwynwyd ECO am y tro cyntaf gan lywodraeth glymblaid y Ceidwadwyr/Democratiaid Rhyddfrydol yn 2014 a dechreuodd y cynllun pedair blynedd newydd hwn ym mis Ebrill, a'r bwriad yw ei fod ar waith tan 31 Mawrth 2026.
Ei brif amcan yw gwella'r stoc dai leiaf ynni effeithlon sy’n lletya aelwydydd bregus ac incwm isel. Mae'n gynllun gwych ac yn cynnig grantiau a fydd o bosib yn gallu helpu i ariannu pethau fel insiwleiddio newydd neu systemau gwresogi.
Ar hyn o bryd, dydy o ond ar gael i bobl ar fudd-daliadau, sydd â chyflyrau iechyd, neu'r rhai â meini prawf cymhwystra eraill a nodwyd gan eu hawdurdod lleol.
Rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig bod mwy o bobl yn cael y cyfle i fanteisio ar gynllun o'r fath yn enwedig ar hyn o bryd.
Mae'r datganiad yn nodi meini prawf cymhwystra hyblyg Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy ar gyfer cynllun Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO4) o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2026.
Bydd y cynllun ECO4 yn canolbwyntio ar gefnogi aelwydydd incwm isel a bregus. Bydd y cynllun yn gwella'r cartrefi sy’n defnyddio ynni yn lleiaf effeithlon gan helpu i gyflawni ymrwymiadau tlodi tanwydd a sero-net y Llywodraeth.
Y cwbl y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn ei wneud yw fetio ceisiadau gan sicrhau bod amodau cymhwystra yn cael eu bodloni, gyda’r grantiau’n cael eu gweinyddu gan asiantau neu osodwyr sy'n gweithio ar ran cwmnïau ynni.