Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, calls on constituents to take part in a town centre public consultation.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, said:
I am pleased to see Flintshire County Council will be asking for the views of local people as I think it is vitally important they have a say on what they want to see in their town centres.
I would urge people living in Buckley, Holywell and Shotton to take part in the consultation which is available online until February 12.
There will also be an opportunity to find out more about the plans at a series of drop-in sessions in all the towns from the end of this month.
The consultation activity planned is part of a process to develop seven ‘Place Making Plans’ for town centres in the next two years, with the first of these starting this month.
This work is being led by Flintshire County Council is in response to the Welsh Government’s request that all local authorities across Wales establish Place Making Plans for their towns.
Place Making Plans will set out a future vision for each town, outline actions that would help improve the overall vibrancy and attractiveness of the place and meet the needs of people who live, work and visit the towns. The development of the plans for each town creates opportunities for a range of stakeholders to work more collaboratively to deliver improvements.
Local people who live or work in or near to Buckley, Holywell and Shotton will have the opportunity to participate in an online survey about their town centres from 26 January to 12 February 2023. For more information visit: https://flintshire.gov.uk/Placemakinginflintshire.
Sam Rowlands AS yn cefnogi’r alwad ar bobl leol i helpu i lywio dyfodol canol eu trefi
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar etholwyr i gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar ganol trefi.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol:
Rwy'n falch o weld Cyngor Sir y Fflint yn gofyn am farn pobl leol gan fy mod i'n credu ei bod yn hanfodol bwysig eu bod yn cael dweud eu dweud am yr hyn maen nhw am ei weld yng nghanol eu trefi.
Byddwn yn annog pobl sy'n byw ym Mwcle, Treffynnon a Shotton i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad sydd ar gael ar-lein tan 12 Chwefror.
Bydd cyfle hefyd i ddysgu mwy am y cynlluniau mewn cyfres o sesiynau galw heibio ym mhob un o'r trefi o ddiwedd y mis hwn.
Mae'r gweithgaredd ymgynghori sydd wedi'i gynllunio yn rhan o broses i ddatblygu saith 'Cynllun Creu Lleoedd' ar gyfer canol trefi yn y ddwy flynedd nesaf, gyda'r cyntaf o'r rhain yn dechrau'r mis hwn.
Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan Gyngor Sir y Fflint yn ymateb i gais Llywodraeth Cymru i bob awdurdod lleol ledled Cymru sefydlu Cynlluniau Creu Lleoedd ar gyfer eu trefi.
Bydd Cynlluniau Creu Lleoedd yn gosod gweledigaeth ar gyfer pob tref yn y dyfodol, yn amlinellu camau a fyddai'n helpu i wella bywiogrwydd ac atyniad cyffredinol y lle ac yn diwallu anghenion pobl sy'n byw, gweithio ac ymweld â'r trefi. Mae datblygu'r cynlluniau ar gyfer pob tref yn creu cyfleoedd i amrywiaeth o randdeiliaid gydweithio mwy i sicrhau gwelliannau.
Bydd y bobl leol sy'n byw neu'n gweithio ym Mwcle, Treffynnon a Shotton yn cael cyfle i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein am ganol eu trefi rhwng 26 Ionawr a 12 Chwefror 2023. Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Business/Regeneration/What-we-are-currently-working-on/Place-Making-in-Flintshire.aspx.