Sam Rowlands MS for North Wales is backing a health watchdog who want people’s views on speech and language therapy services in the region.
He is supporting the North Wales Community Health Council who are calling on the pubic to share their experiences.
He said:
I am a great believer in people being given the opportunity to have their say about the future development of Welsh NHS services and welcome this move by the independent health service watchdog.
It is vitally important that anyone who has experienced speech and language therapy services in North Wales share their views so that feedback can be given to policy makers and those who make the decisions.
I am also pleased to see that people will have the opportunity to actually attend face to face events where they can find out more about the services.
Mr Geoff Ryall-Harvey, Chief Officer for NWCHC said:
We have worked alongside the BCUHB Speech and Language Therapy Services to make sure people have a say in the way that the services are developed in North Wales.
Our engagement events will take place in a number of locations across the region, providing an opportunity for people to tell us about their experiences of the services. It is vital that we present the feedback and suggestions of all those who use the Speech and Language Therapy services to those who make decisions.
The NWCHC will be hosting the sessions, alongside video conferencing, across all six counties of North Wales during September, October and November.
For more information contact the North Wales Community Health Council on 01248 679284 or email [email protected]. You can also register your attendance via our SurveyMe app by using the following link: https://svy.at/b7f1g.
Sam Rowlands AS yn galw ar ei etholwyr i leisio eu barn am wasanaethau therapi lleferydd ac iaith yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, yn cefnogi corff gwarchod iechyd sy'n awyddus i glywed barn pobl am wasanaethau therapi lleferydd ac iaith yn y rhanbarth.
Mae'n cefnogi Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru sy'n gofyn i'r cyhoedd rannu eu profiadau.
Meddai:
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn rhoi cyfle i bobl leisio eu barn am ddatblygu gwasanaethau GIG Cymru yn y dyfodol, ac rwy'n croesawu'r cam hwn gan gorff gwarchod annibynnol y gwasanaeth iechyd.
Mae'n hanfodol bwysig bod unrhyw un sydd wedi cael profiad o ddefnyddio gwasanaethau therapi lleferydd ac iaith yn y Gogledd yn rhannu ei farn er mwyn rhoi adborth i'r rhai sy'n llunio polisi ac yn gwneud y penderfyniadau.
Mae'n dda gweld y bydd pobl yn cael cyfle i fynychu digwyddiadau wyneb yn wyneb er mwyn dysgu mwy am y gwasanaethau.
Meddai Mr Geoff Ryall-Harvey, Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru:
Rydym wedi gweithio ochr yn ochr â Gwasanaethau Therapi Lleferydd ac Iaith BIPBC i sicrhau bod pobl yn cael cyfle i leisio eu barn am sut mae gwasanaethau yn cael eu datblygu yn y Gogledd.
Bydd ein digwyddiadau ymgysylltu yn cael eu cynnal mewn nifer o leoliadau ledled y rhanbarth, gan roi cyfle i bobl ddweud wrthym am eu profiadau o'r gwasanaethau. Mae'n hollbwysig ein bod yn cyflwyno adborth ac awgrymiadau pawb sy'n defnyddio'r gwasanaethau Therapi Lleferydd ac Iaith i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau.
Bydd Cyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru yn cynnal y sesiynau, ochr yn ochr â gwasanaeth fideo-gynadledda, ledled chwe sir Gogledd Cymru yn ystod mis Medi, mis Hydref a mis Tachwedd.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch Gyngor Iechyd Cymuned Gogledd Cymru ar 01248 679284 neu e-bostiwch [email protected]. Hefyd, gallwch gofrestru eich presenoldeb trwy ddefnyddio'r ap SurveyMe sydd ar gael trwy'r ddolen ganlynol: https://svy.at/b7f1g.