Following a year long review, this month the Welsh Labour Government published their final report of the independent roads review panel.
The review is staggering and with almost all major road building and upgrade projects across North Wales scrapped, it’s clear our communities have been forgotten about again by Labour’s Welsh Government.
Amongst the scrapped projects are upgrades to the A483 Wrexham bypass, the A494 Lon Fawr Ruthin/Corwen Road, the A483 at Halton roundabout, the A55 at junctions 15-16 and 32-33, the Flintshire Corridor and the Third Menai Crossing.
Labour politicians tell us that this road building ban is vital to protect the environment and reduce carbon emissions. What they don’t understand is that private road transport is the only practical option for thousands of people across North Wales, with around 84% of people in Wales relying on a car or motorbike to go about their daily lives.
Many car manufacturers are planning a move away from petrol and diesel and over to electric, which will drastically cut the carbon emissions from road travel over the next decade. The Welsh Government need to focus on promoting green electric and hydrogen road transport, rather than making ordinary people’s lives more difficult.
Of course, Labour’s decision would be much more well received if we had sufficient and appropriate levels of public transport in North Wales, but the people of North Wales know this isn’t the case. The North Wales Metro project was announced seven years ago, and the prospect of an integrated, North Wales-wide public transport network seems as distant as ever. Meanwhile, we’ve seen significant amounts of investment channelled into metro schemes in South Wales.
As a Member of the Welsh Parliament for North Wales, my inbox continues to be inundated from concerned residents, whilst I continue to hold the Welsh Government to account over this ludicrous roads review.
As outlined by CBI Wales, when looking at supporting our environment, we need to work on solutions that don’t damage the Welsh economy, but benefit jobs.
Scrapping road building projects across Wales could have a dangerous impact and is a backward step in how we go about our daily lives. Instead of slowing Wales down, Labour should grip the wheel and get Wales moving again with a pro-growth, pro-business, pro-worker programme that works for drivers.
Please feel free to contact me by emailing [email protected] or calling on 0300 200 7267.
Fy marn i - The Leader
Yn dilyn adolygiad blwyddyn o hyd, y mis hwn cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru ei hadroddiad terfynol o'r panel adolygu ffyrdd annibynnol.
Mae'r adolygiad yn syfrdanol, a gyda bron pob prosiect mawr i adeiladu ffyrdd ac uwchraddio ledled y Gogledd wedi'u dileu, mae'n amlwg bod Llywodraeth Lafur Cymru wedi anghofio eto am ein cymunedau.
Ymhlith y prosiectau a ddilëwyd mae gwaith uwchraddio i ffordd osgoi Wrecsam, yr A494 Lon Fawr Rhuthun/Corwen, yr A483 ar gylchfan Halton, yr A55 ar gyffyrdd 15-16 a 32-33, Coridor Sir y Fflint a Thrydedd Bont i groesi'r Menai.
Mae gwleidyddion Llafur yn dweud wrthym fod y gwaharddiad hwn ar adeiladu ffyrdd yn hanfodol i amddiffyn yr amgylchedd a lleihau allyriadau carbon. Yr hyn nad ydyn nhw'n ei ddeall yw mai trafnidiaeth ffordd breifat yw'r unig opsiwn ymarferol i filoedd o bobl ledled y Gogledd, gyda thua 84% o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar gar neu feic modur i fynd o gwmpas eu bywydau bob dydd.
Mae llawer o wneuthurwyr ceir yn bwriadu newid o betrol a ddiesel i drydan, a fydd yn torri'r allyriadau carbon o deithio ar y ffordd yn sylweddol dros y degawd nesaf. Mae angen i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio ar hybu trafnidiaeth ffordd drydanol, wyrdd a hydrogen, yn hytrach na gwneud bywydau pobl gyffredin yn anoddach.
Wrth gwrs, byddai penderfyniad Llafur yn cael llawer gwell croeso pe bai gennym lefelau digonol a phriodol o drafnidiaeth gyhoeddus yn y gogledd, ond mae pobl Gogledd Cymru yn gwybod nad yw hyn yn wir. Cyhoeddwyd y prosiect Metro Gogledd Cymru saith mlynedd yn ôl, ac mae'r posibilrwydd o gael rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, ledled y gogledd yn ymddangos mor bell ag erioed. Yn y cyfamser, rydyn ni wedi gweld llawer iawn o fuddsoddiad yn cael ei sianelu i gynlluniau Metro yn y De.
Fel Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, mae fy mewnflwch yn parhau i gael ei foddi gan drigolion pryderus, a minnau’n parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am yr adolygiad ffyrdd chwerthinllyd hwn.
Fel yr amlinellir gan CBI Cymru, wrth edrych ar gefnogi ein hamgylchedd, mae angen i ni weithio ar atebion nad ydyn nhw’n niweidio economi Cymru, ond sydd o fudd i swyddi.
Gallai cael gwared ar brosiectau adeiladu ffyrdd ledled Cymru gael effaith beryglus ac mae'n gam yn ôl yn y modd rydyn ni’n byw ein bywydau bob dydd. Yn lle arafu Cymru, dylai Llafur roi ei throed ar y sbardun a chael Cymru'n symud eto gyda rhaglen o blaid twf, o blaid busnes, o blaid gweithwyr, sy'n gweithio i yrwyr.
Mae croeso i chi gysylltu â mi trwy e-bostio [email protected] neu ffonio 0300 200 7267.