Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to get involved with tidying up their communities.
Mr Rowlands, a keen supporter of nature and improving the environment said:
This spring, Keep Wales Tidy is calling on us all to do our bit to help protect the environment and help pick up litter by taking part in Spring Clean Cymru for 2023.
I think it is a wonderful campaign as it is fantastic to see people working together to make a difference in their communities and it can also be good fun.
Litter continues to blight our local environment and I think it is vitally important we all take responsibility to collect and safely dispose of it from our streets, green spaces and beaches.
I would urge everyone to set aside some time and get involved.
Spring Clean Cymru 2023 is currently underway and runs until April 2. Last year’s campaign was the biggest ever, with an incredible 17,000 volunteers taking part in 364 clean-ups across the country. Keep Wales Tidy are hoping to beat this total and make 2023 their most successful spring clean yet.
Keep Wales Tidy Chief Executive Owen Derbyshire said:
Our message this year is simple: even one bag can make a big difference. Whether you choose to clean up your own neighbourhood, your favourite beach, park or beauty spot - every piece of litter removed from the natural environment matters.
Not only does litter cost Wales roughly £70 million to remove each year, but it also has devastating effects on our marine and local wildlife. The RSPCA reports on average receiving 14 calls a day about animals affected by litter, with calls spiking in the summer months.
Litter picking is also a fun, free event that can benefit your health, wellbeing, and sense of pride in your community.
In a recent survey, 90% of our Litter Champions, volunteers who regularly carry our clean-ups, said that litter picking made them feel good about themselves. 71% said it made them feel healthier and more physically active. And 88% said they felt they were having a positive impact on their local area.
To take part in Spring Clean Cymru, visit the Keep Wales Tidy website: www.keepwalestidy.cymru
Sam Rowlands AS yn cefnogi Gwanwyn Glân Cymru 2023
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i fynd ati i dacluso eu cymunedau.
Meddai Mr Rowlands, sy’n frwd dros fyd natur a gwella'r amgylchedd:
Y gwanwyn hwn, mae Cadwch Gymru'n Daclus yn galw arnom ni i gyd i wneud ein rhan i helpu i warchod yr amgylchedd a helpu i gasglu sbwriel trwy gymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru ar gyfer 2023.
Rwy'n meddwl ei bod hi'n ymgyrch wych gan ei bod hi'n braf gweld pobl yn cydweithio i wneud gwahaniaeth yn eu cymunedau ac mae'n gallu bod yn dipyn o hwyl hefyd.
Mae sbwriel yn parhau i ddifetha ein hamgylchedd lleol ac rwy'n credu ei bod yn hanfodol bwysig ein bod i gyd yn cymryd cyfrifoldeb i'w gasglu a'i waredu'n ddiogel o'n strydoedd, mannau gwyrdd a thraethau.
Byddwn yn annog pawb i neilltuo rhywfaint o amser a chymryd rhan.
Mae Gwanwyn Glân Cymru 2023 wedi cychwyn ac mae'n para tan 2 Ebrill. Ymgyrch y llynedd oedd y fwyaf erioed, gyda 17,000 o wirfoddolwyr anhygoel yn cymryd rhan mewn 364 o ddigwyddiadau glanhau ledled y wlad. Mae Cadwch Gymru'n Daclus yn gobeithio curo'r cyfanswm yma a sicrhau mai Gwanwyn Glân 2023 fydd yr un mwyaf llwyddiannus eto.
Dywedodd Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus, Owen Derbyshire: "Mae ein neges eleni yn syml: gall hyd yn oed un bag wneud gwahaniaeth mawr. P'un a ydych chi'n dewis glanhau eich cymdogaeth eich hun, eich hoff draeth, parc neu fan harddwch – mae pob darn o sbwriel sy'n cael ei dynnu o'r amgylchedd naturiol yn bwysig.
Mae sbwriel yn costio tua £70 miliwn y flwyddyn i Gymru, ond mae hefyd yn cael effeithiau dinistriol ar ein bywyd gwyllt morol a lleol. Dywed yr RSPCA eu bod yn derbyn cyfartaledd o 14 galwad y dydd am anifeiliaid sy'n cael eu heffeithio gan sbwriel, gyda galwadau'n cynyddu dros fisoedd yr haf.
Mae casglu sbwriel hefyd yn weithgaredd hwyliog, rhad ac am ddim a all fod o fudd i'ch iechyd, lles, a'ch ymdeimlad o falchder yn eich cymuned.
Mewn arolwg diweddar, dywedodd 90% o'n Harwyr Sbwriel, gwirfoddolwyr sy'n gwneud ein gwaith glanhau yn rheolaidd, fod casglu sbwriel yn gwneud iddyn nhw deimlo'n dda am eu hunain. Dywedodd 71% ei fod yn gwneud iddyn nhw deimlo'n iachach ac yn fwy egnïol yn gorfforol. Ac fe ddywedodd 88% eu bod yn teimlo eu bod yn cael effaith gadarnhaol ar eu hardal leol.
I gymryd rhan yn Gwanwyn Glân Cymru, ewch i wefan Cadwch Gymru'n Daclus: www.keepwalestidy.cymru