Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on his constituents to have their say on improvements for Wrexham city centre.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, said:
I am pleased to see Wrexham County Borough Council asking for the views of local people as I think it is vitally important they have a say on what they want to see in Wrexham city centre.
I was delighted recently to have the opportunity to visit Tŷ Pawb and see at first-hand some of the investment Wrexham council is making in the city.
I was very impressed with the resource which brings together the market and the arts along with several street food stalls in the centre of this vibrant city. It has a very community feel and I am sure the venture will be a success. Apart from investment in the centre we are also seeing the huge success of Wrexham AFC, which is excellent news for the future.
I would urge anyone who has a view to take part in the consultation.
Wrexham Council is currently consulting on its Placemaking Plan, which is about improving the centre of Wrexham and asking the public to influence how it should look, feel and function.
Specifically they want the plan to promote better design and development and help establish more appealing social, cultural, economic uses and activities in the city centre.
The aim is to make Wrexham the number one destination for people from across the area, as the place for shopping, working, learning, culture and entertainment. A centre that provides developers, businesses and organisations with the confidence and encouragement to invest in the city.
Wrexham is a place with a unique and proud identity and currently, it is one of the most talked about places in the UK and has a growing international profile.
Its growth and ambition have been raised significantly through the award of City Status for the whole County Borough, advancing to the final stage of the 2025 City of Culture, and there’s also the global spotlight on Wrexham following the Hollywood takeover and recent successes of Wrexham FC.
Take part in the consultation online here or attend the final drop in session being held at Tŷ Pawb on Saturday April 8 from 12-4pm. The closing date is April 21 2023.
Sam Rowlands AS yn cefnogi’r alwad ar bobl leol i helpu i lywio dyfodol canol eu dinas
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar ei etholwyr i ddweud eu dweud ar welliannau i ganol dinas Wrecsam.
Meddai Mr Rowlands, Gweinidog Cysgodol Llywodraeth Leol:
Rwy'n falch o weld Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn gofyn am farn pobl leol gan fy mod yn credu ei bod yn hollbwysig eu bod yn cael dweud eu dweud am yr hyn maen nhw am ei weld yng nghanol dinas Wrecsam.
Roeddwn wrth fy modd yn ddiweddar o gael y cyfle i ymweld â Tŷ Pawb a gweld o lygad y ffynnon rhywfaint o'r buddsoddiad y mae cyngor Wrecsam yn ei wneud yn y ddinas.
Fe wnaeth yr adnodd sy'n dod â'r farchnad a'r celfyddydau ynghyd, yn ogystal â nifer o stondinau bwyd stryd yng nghanol y ddinas fywiog hon, argraff fawr arna’i. Mae ymdeimlad cymunedol iawn yno ac rwy'n siŵr y bydd y fenter yn llwyddiant. Yn ogystal â’r buddsoddiad yn y ganolfan rydyn ni hefyd yn gweld llwyddiant ysgubol Clwb Pêl-droed Wrecsam, sy'n newyddion ardderchog i'r dyfodol.
Byddwn yn annog unrhyw un sydd â barn ar y mater i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Mae Cyngor Wrecsam wrthi'n ymgynghori ar eu Cynllun Creu Lleoedd, sy'n ymwneud â gwella canol Wrecsam ac yn gofyn i'r cyhoedd ddylanwadu ar sut y dylai edrych, deimlo a gweithredu.
Yn benodol, maen nhw am i'r cynllun hyrwyddo gwell dylunio a datblygu a helpu i sefydlu mwy o ddefnyddiau cymdeithasol, diwylliannol, economaidd a gweithgareddau yng nghanol y ddinas.
Y nod yw gwneud Wrecsam yn hoff gyrchfan i bobl o bob rhan o'r ardal, fel y lle i ddod ar gyfer siopa, gweithio, dysgu, diwylliant ac adloniant. Canolfan sy'n rhoi'r hyder a'r anogaeth i ddatblygwyr, busnesau a sefydliadau fuddsoddi yn y ddinas.
Mae Wrecsam yn lle sydd â hunaniaeth unigryw a balch ac ar hyn o bryd, mae'n un o'r llefydd y sonnir amdano fwyaf yn y DU ac mae gan y ddinas broffil rhyngwladol cynyddol.
Rhoddwyd hwb sylweddol i’w thwf a'i huchelgais wrth ddyfarnu Statws Dinas ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan a phan gyrhaeddodd rownd olaf Dinas Diwylliant 2025, ac mae sylw’r byd hefyd ar Wrecsam yn sgil llwyddiant y prynwyr o Hollywood a llwyddiannau diweddar CPD Wrecsam ar y cae.
Cymerwch ran yn yr ymgynghoriad ar-lein yma neu dewch i'r sesiwn galw heibio olaf sy'n cael ei chynnal yn Tŷ Pawb ddydd Sadwrn 8 Ebrill rhwng 12-4pm. Y dyddiad cau yw 21 Ebrill 2023.