As one of the many people across Wrexham and North Wales not registered with an NHS dentist, last month I decided to contact every dentist in North Wales on Betsi Cadwaladr University Health Board’s website to see if they’d be willing to take on new patients such as me.
I contacted 69 dentists, and spoke to 57 dental practices, the results were staggering, in the whole of North Wales, just 4 dental practices were looking to take on new patients.
Of course, the other caveat with this is that they were only willing to put me on a waiting list for up to two years.
When looking closer to Wrexham and the surrounding areas, the results were just as staggering. I spoke with 12 dental practices across Wrexham, but just one was taking on new NHS patients. The story was the same in Flintshire, I spoke with 17 dental practices across Flintshire, but again, just one was taking on new NHS patients.
As we know, the responsibility of healthcare, including dental care, is the responsibility of the Welsh Labour Government in Cardiff.
In my capacity as a Member of the Welsh Parliament for North Wales, I continue to raise the concerns of residents in North Wales regarding access to dentistry.
This month, the Welsh Labour Government’s Health Minister stated, “Private healthcare is an established an acceptable alternative”, and “in reality some will prefer to go private, creating a divided market”.
The minister seems to be out of touch with reality; this is not something that many residents in North Wales would prefer to do, it’s something many feel that they have to do because they cannot access an NHS dentists.
It simply can not be right that residents across Wrexham and the surrounding areas continue to pay their National Insurance and Taxes, but can’t access an NHS dentist that they are already paying for.
In addition to this, dental groups and dentists from across North Wales, such as the North Wales Dental Committee, continue to outline their legitimate concerns regarding the Welsh Government’s Dentistry Reform Programme, and regretfully tell me that they’re close to breaking point with NHS dentistry.
Moving forward, it’s crucially important that the Welsh Labour Government addresses these legitimate concerns, and works to ensure residents across Wrexham and North Wales are able to access an NHS dentist. A route must be set out for residents to access NHS dentistry in the very near future, and in my capacity as a Member of the Welsh Parliament, I will continue to hold the Welsh Labour Government to account over this.
Please feel free to contact me by emailing [email protected] or calling on 0300 200 7267.
Barn Sam Rowlands – Wrexham.com
Fel un o'r nifer o bobl ledled Wrecsam a Gogledd Cymru sydd heb gofrestru gyda deintydd y GIG, fis diwethaf penderfynais gysylltu â phob deintyddfa yn y Gogledd ar wefan Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i weld a fydden nhw'n fodlon derbyn cleifion newydd fel fi.
Cysylltais â 69 o ddeintyddion, a siaradais gyda 57 o ddeintyddfeydd. Roedd y canlyniadau'n syfrdanol. Yng Ngogledd Cymru gyfan, dim ond 4 deintyddfa oedd mewn sefyllfa i dderbyn cleifion newydd yn y dyfodol.
Wrth gwrs, y rhwystredigaeth arall oedd eu bod ond yn fodlon fy rhoi ar restr aros am hyd at ddwy flynedd.
Wrth edrych yn fwy gofalus ar Wrecsam a'r cyffiniau, roedd y canlyniadau'r un mor syfrdanol. Siaradais gyda 12 deintyddfa ledled Wrecsam, ond dim ond un oedd yn croesawu cleifion GIG newydd. Yr un oedd yr hanes yn Sir y Fflint, siaradais gyda 17 practis deintyddol ledled Sir y Fflint, ond unwaith eto, dim ond un oedd yn derbyn cleifion GIG newydd.
Fel y gwyddom, mae gofal iechyd, gan gynnwys gofal deintyddol, yn gyfrifoldeb i Lywodraeth Lafur Cymru yng Nghaerdydd.
Yn rhinwedd fy swydd fel Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, rwy'n parhau i rannu pryderon trigolion yn y Gogledd ynghylch mynediad at ddeintydd.
Y mis hwn, dywedodd Gweinidog Iechyd Llywodraeth Lafur Cymru, "Mae gofal iechyd preifat yn ddewis arall derbyniol", ac "mewn gwirionedd bydd yn well gan rai fynd yn breifat, gan greu marchnad ranedig".
Mae'n ymddangos bod y gweinidog wedi colli cysylltiad â realiti; dyw hyn ddim yn rhywbeth y byddai'n well gan lawer o drigolion y Gogledd ei wneud, yn hytrach mae'n rhywbeth y mae llawer yn teimlo bod yn rhaid iddyn nhw ei wneud oherwydd nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG.
Does bosib na all fod yn iawn fod trigolion ledled Wrecsam a'r ardaloedd cyfagos yn parhau i dalu eu Trethi a’u Hyswiriant Gwladol, ond yn methu cael mynediad at ddeintydd y GIG y maen nhw eisoes yn talu amdano.
Yn ogystal â hyn, mae grwpiau deintyddol a deintyddion o bob rhan o’r Gogledd, megis Pwyllgor Deintyddol Gogledd Cymru, yn parhau i amlinellu eu pryderon go iawn ynglŷn â Rhaglen Diwygio Deintyddfeydd Llywodraeth Cymru, ac yn dweud wrtha’i gyda chalon drom fod deintyddiaeth y GIG bron chwalu’n llwyr.
Wrth symud ymlaen, mae'n hanfodol bwysig bod Llywodraeth Lafur Cymru yn mynd i'r afael â'r pryderon dilys hyn, ac yn gweithio i sicrhau bod trigolion Wrecsam a Gogledd Cymru yn gallu cael mynediad at ddeintydd y GIG. Rhaid gosod llwybr fel y gall preswylwyr gael mynediad at ddeintyddiaeth y GIG yn y dyfodol agos iawn, ac yn rhinwedd fy swydd fel Aelod o’r Senedd, byddaf yn dal ati i ddwyn Llywodraeth Lafur Cymru i gyfrif am hyn.
Mae croeso i chi gysylltu â mi trwy e-bostio [email protected] neu fy ffonio ar 0300 200 7267.