Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales and Darren Millar, Shadow Minister for North Wales in the Welsh Parliament, have met with the Chair of Cwmni Egino to discuss their aspirations for new nuclear power at Trawsfynydd.
Trawsfynydd nuclear power station was commissioned in 1965 and decommissionig has been ongoing since 1993. The Snowdonia Enterprise Zone, established in 2012 looked at new uses for the site that would create jobs and provide a boost to the economy. The Enterprise Zone found that developing a nuclear project at the site would be the best use, harnessing the skills and infrastructure already nearby.
Cwmni Egino, the site development company set up by Welsh Government in 2021, is developing plans to deploy the UK’s first small modular reactor (SMR) at Trawsfynydd. .
Sam Rowlands said,
It was really useful to meet with John and discuss Cwmni Egino’s plans for new nuclear power at Trawsfynydd. Nuclear power will be a vital part of our energy mix in the future, producing large amounts of clean, cheap electricity.
Darren Millar said,
New nuclear power at Trawsfynydd will be a huge project for North Wales, creating new well-paid jobs in the region. North Wales is already home to factories producing components for small modular reactors, and it’s encouraging to see the region at the heart of a new nuclear revolution.
Sam Rowlands AS a Darren Millar AS o blaid ynni niwclear yng Ngogledd Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru a Darren Millar, Gweinidog Gogledd Cymru yr Wrthblaid yn y Senedd, wedi cyfarfod Cadeirydd Cwmni Egino i drafod eu dyheadau am waith ynni niwclear newydd yn Nhrawsfynydd.
Comisiynwyd atomfa ynni niwclear Trawsfynydd ym 1965 ac mae'r gwaith datgomisiynu wedi bod yn mynd rhagddo ers 1993. Bu Ardal Fenter Eryri, a sefydlwyd yn 2012, yn pwyso a mesur defnydd newydd ar gyfer y safle a fyddai'n creu swyddi ac yn rhoi hwb i'r economi. Yn ôl yr Ardal Fenter, datblygu prosiect niwclear ar y safle fyddai'r defnydd gorau, gan harneisio'r sgiliau a'r isadeiledd sydd eisoes gerllaw.
Mae Cwmni Egino, y cwmni datblygu safle a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2021, yn datblygu cynlluniau i ddefnyddio adweithydd modiwlar bach cyntaf y DU yn Nhrawsfynydd.
Meddai Sam Rowlands,
Roedd cwrdd â John a thrafod cynlluniau Cwmni Egino ar gyfer pŵer niwclear newydd yn Nhrawsfynydd yn fuddiol dros ben. Bydd pŵer niwclear yn rhan hanfodol o'n cymysgedd o ynni yn y dyfodol, gan gynhyrchu llawer iawn o drydan glân a rhad.
Meddai Darren Millar,
Bydd gwaith pŵer niwclear newydd yn Nhrawsfynydd yn brosiect enfawr i Ogledd Cymru, gan greu swyddi newydd â chyflog da yn y rhanbarth. Mae Gogledd Cymru eisoes yn gartref i ffatrïoedd sy'n cynhyrchu cydrannau ar gyfer adweithyddion modiwlar bach, ac mae'n galonogol gweld y rhanbarth wrth galon chwyldro niwclear newydd.