Sam Rowlands, a Member of the Welsh Parliament for North Wales is backing calls for visitors to stay safe in the countryside over the coming months.
He is supporting NFU Cymru and Ramblers Cymru who are encouraging walkers and those looking to enjoy the Welsh countryside to follow the Countryside Code.
He said:
With several Bank Holidays just around the corner I am happy to add my voice to remind those who are looking to get out and about in our wonderful countryside, to stay safe.
As the daylight hours increase and we look forward to warmer weather many people will be keen to visit some of the scenic landscapes we have to offer in North Wales.
It is great to welcome visitors to this beautiful part of the world but I fully support NFU Cymru and walking charity, Ramblers Cymru who are reminding walkers to use footpaths safely and responsibly.
The Welsh farming union and the walking charity are urging people to make sure they follow the Countryside Code which includes making sure dogs are always under complete control, especially around sheep and cattle, leaving gates as you find them, keeping to marked footpaths and not blocking access to gateways or driveways when parking.
NFU Cymru Rural Affairs Board Chairman Hedd Pugh said: “Wales’ countryside is home to thousands of miles of footpaths and rights of way, as well as being a working environment where animals graze and farm businesses work all year round to feed the nation. It is a delicate balance and one where all must act responsibly – whether it’s those enjoying the countryside recreationally or those living and working on the land – to ensure all people and animals remain safe.
Spring is a particularly busy time in the farming calendar and visitors will be noticing new-born lambs and calves taking their first steps in the fields. Please be respectful of this environment and the animals that call it home by keeping dogs under control and on a short lead around livestock.
Angela Charlton, Director at Ramblers Cymru said:
We want everyone to be able to feel welcome and enjoy the simple pleasures and benefits of being in the outdoors surrounded by nature. By following the simple guidance in the Countryside Code we can all do our bit to protect the environment and the local communities who live there as we pass through, leaving only footprints and creating new memories.
For more information on enjoying the Welsh countryside safely and responsibly, please visit nfu-cymru.org.uk, ramblers.org.uk/wales or naturalresources.wales/countrysidecode
Sam Rowlands AS yn galw ar etholwyr i ddilyn y Cod Cefn Gwlad
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi galwad ar ymwelwyr i gadw’n ddiogel yng nghefn gwlad dros y misoedd nesaf.
Mae’n cefnogi NFU Cymru ac y Cerddwyr (Ramblers Cymru) sy’n annog cerddwyr a’r rheiny sy’n awyddus i fwynhau cefn gwlad Cymru i ddilyn y Cod Cefn Gwlad.
Meddai:
Gyda sawl Gŵyl y Banc ar y gorwel, rwy’n hapus i ychwanegu fy llais i atgoffa’r rhai sy’n bwriadu mynd allan i fwynhau ein cefn gwlad fendigedig i gadw’n ddiogel.
Wrth i’r dydd ymestyn ac wrth i ni edrych ymlaen at dywydd cynhesach, bydd llawer o bobl yn awyddus i ymweld â rhai o’r tirweddau ysblennydd sydd gennym yma yn y Gogledd.
Mae’n wych cael croesawu ymwelwyr i’r rhan hardd hon o’r byd ond rwy’n llwyr gefnogi NFU Cymru, ac elusen Y Cerddwyr, sy’n atgoffa cerddwyr i ddefnyddio llwybrau troed yn ddiogel ac yn gyfrifol.
Mae undeb ffermio Cymru a’r elusen gerdded yn annog pobl i sicrhau eu bod yn dilyn y Cod Cefn Gwlad, sy’n cynnwys sicrhau bod cŵn o dan reolaeth lwyr bob amser, yn enwedig o gwmpas defaid a gwartheg, gadael giatiau fel yr oedden nhw, cadw at lwybrau troed wedi’u marcio a pheidio â rhwystro mynediad i gaeau neu anheddau wrth barcio.
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Materion Gwledig NFU Cymru, Hedd Pugh: “Mae cefn gwlad Cymru yn gartref i filoedd o filltiroedd o lwybrau troed a hawliau tramwy, yn ogystal â bod yn amgylchedd gwaith lle mae anifeiliaid yn pori a busnesau fferm yn gweithio gydol y flwyddyn i fwydo’r genedl. Mae’n gydbwysedd sensitif ac yn un lle mae’n rhaid i bawb ymddwyn yn gyfrifol - boed y rhai sy’n mwynhau’r cefn gwlad at hamdden neu’r rhai sy’n byw ac yn gweithio ar y tir – er mwyn sicrhau bod pob person ac anifail yn cadw’n ddiogel.
Mae’r gwanwyn yn gyfnod arbennig o brysur yn y calendr ffermio a bydd ymwelwyr yn sylwi ar ŵyn a lloi newydd anedig yn cymryd eu camau cyntaf yn y caeau. Byddwch yn barchus o’r amgylchedd hwn a’r anifeiliaid sy’n ei alw’n gartref trwy gadw cŵn dan reolaeth ac ar dennyn byr o amgylch da byw.
Dywedodd Angela Charlton, Cyfarwyddwr Y Cerddwyr:
Rydym ni am i bawb allu teimlo bod croeso iddyn nhw a mwynhau’r pleserau syml a manteision bod yn yr awyr agored yng nghanol natur. Trwy ddilyn y canllawiau syml yn y Cod Cefn Gwlad, gallwn ni i gyd wneud ein rhan i warchod yr amgylchedd a’r cymunedau lleol sy’n byw yno wrth i ni basio trwyddynt, gan adael dim ond olion traed a chreu atgofion newydd.
Am ragor o wybodaeth am fwynhau cefn gwlad Cymru yn ddiogel ac yn gyfrifol, ewch i nfu-cymru.org.uk, ramblers.org.uk/wales neu cyfoethnaturiol.cymru/codcefngwlad