Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing Bowel Cancer UK’s campaign to help raise awareness of symptoms during Bowel Cancer Awareness Month this April.
He said:
As Member of the Welsh Parliament I am totally committed to increasing awareness of bowel cancer symptoms, and this month will be encouraging everyone to help raise funds to support the work of Bowel Cancer UK.
Bowel cancer is the fourth most common cancer in Wales, with over 2,300 cases diagnosed every year and 900 people dying from the disease. However, it is treatable and curable especially if diagnosed early so it is really important to get this message across.
It is absolutely vital if you are concerned to do something about it and I would urge anyone who is worried that something is wrong, to visit their GP.
April’s Bowel Cancer Awareness Month is an annual event set aside to increase awareness of bowel cancer and raise funds towards treating this condition. It is driven by various charitable organisations including the Beating Bowel Cancer and Bowel Cancer UK, who have merged with the main aim of ensuring that there would be no victim of Bowel Cancer by 2050.
Every 15 minutes in the UK someone is diagnosed with bowel cancer. That's nearly 43,000 people every year and someone dies of bowel cancer every 30 minutes in the UK.
Bowel cancer is the UK's second biggest cancer killer, claiming more than 16,500 lives a year, that's 45 people every day. It is the fourth most common cancer in the UK, after breast, prostate and lung cancers.
Bowel Cancer UK’s new survey revealed that nearly four in ten, 38% people can't name a single symptom of bowel cancer. That's why they have launched the #KnowTheHigh5 campaign to raise awareness of the red flag symptoms of the disease.
For more information go to https://www.bowelcanceruk.org.uk/.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at bwysigrwydd cael diagnosis cynnar o ganser y coluddyn
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, yn cefnogi ymgyrch Bowel Cancer UK i helpu i godi ymwybyddiaeth o'r symptomau yn ystod Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn fis Ebrill eleni.
Meddai:
Fel Aelod o’r Senedd rwy’n llwyr ymroddedig i gynyddu ymwybyddiaeth o symptomau canser y coluddyn, a bydd y mis hwn yn annog pawb i helpu i godi arian i gefnogi gwaith Bowel Cancer UK.
Canser y coluddyn yw'r canser mwyaf cyffredin ond tri yng Nghymru, gyda dros 2,300 o achosion yn cael diagnosis bob blwyddyn a 900 o bobl yn marw o'r afiechyd. Fodd bynnag, mae'n bosib ei drin a'i wella yn enwedig o gael diagnosis cynnar felly mae'n bwysig iawn lledaenu'r neges hon.
Os ydych chi’n poeni, mae'n gwbl hanfodol gwneud rhywbeth am y peth, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n poeni bod rhywbeth o'i le i ymweld â'u meddyg teulu.
Mae Mis Ymwybyddiaeth Canser y Coluddyn Ebrill yn ddigwyddiad blynyddol sydd â’r nod o gynyddu ymwybyddiaeth o ganser y coluddyn a chodi arian tuag at drin y cyflwr. Mae'n cael ei gefnogi gan wahanol sefydliadau elusennol gan gynnwys Beating Bowel Cancer a Bowel Cancer UK, sydd wedi dod at ei gilydd gyda’r nod pennaf o sicrhau na fydd neb yn dioddef o ganser y coluddyn erbyn 2050.
Mae rhywun yn cael diagnosis o ganser y coluddyn bob 15 munud yn y DU. Mae hynny’n bron i 43,000 o bobl bob blwyddyn ac mae rhywun yn marw o ganser y coluddyn bob 30 munud yn y DU.
Canser y coluddyn yw lladdwr canser mwyaf ond un y DU, gan hawlio dros 16,500 o fywydau'r flwyddyn, mae hynny'n 45 o bobl bob dydd. Dyma'r canser mwyaf cyffredin ond tri yn y DU, ar ôl canser y fron, y prostad a'r ysgyfaint.
Dangosodd arolwg newydd gan Bowel Cancer UK nad yw bron i bedwar ymhob deg, 38% o bobl, yn gallu enwi hyd yn oed un symptom o ganser y coluddyn. Dyna pam eu bod wedi lansio'r ymgyrch #KnowTheHigh5 i godi ymwybyddiaeth o symptomau baner goch yr afiechyd.
Am ragor o wybodaeth ewch i https://www.bowelcanceruk.org.uk/.