Sam Rowlands MS for North Wales is urging people to get involved with future plans for Conwy County Borough.
Conwy County Borough Council is currently asking for everyone to have their say on a draft cultural strategy for the county for 2021-26.
Mr Rowlands MS, former Leader of Conwy council said:
I am delighted to see everyone being given the opportunity to take part in this consultation and urge people to make sure they do not miss out on having their say.
Conwy is looking to put culture at the heart of everything it does and it is good to see the council is seeking ideas from the public.
It is vitally important for regeneration that they can develop a new and exciting approach and I would urge anyone who has a view to take part in the consultation.
Conwy has already shown its commitment to promoting the county as a cultural venue as only last month the council submitted an expression of interest to become UK City of Culture 2025.
Anyone can take part in the consultation whether you are a local resident, visitor on holiday, a local organisation or if you work locally.
To have your say on the draft Cultural Strategy for Conwy, go to the website at www.conwy.gov.uk/culturestrategy.
For questions contact the Council by telephone on 01492 576139 or email at [email protected]
Sam Rowlands AS yn gofyn i bawb leisio eu barn am strategaeth ddiwylliannol newydd i Gonwy
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, yn annog pobl i gymryd rhan mewn cynlluniau ar gyfer Bwrdeistref Sirol Conwy yn y dyfodol.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Sir Conwy yn gofyn i bawb leisio eu barn am strategaeth ddiwylliannol ddrafft y sir ar gyfer 2021-26.
Meddai Mr Rowlands AS, cyn Arweinydd Cyngor Conwy:
Rwyf wrth fy modd bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn, ac rwy'n annog pobl i fanteisio ar y cyfle i leisio eu barn.
Mae Cyngor Conwy yn awyddus i sicrhau bod diwylliant wrth wraidd popeth y mae'n ei wneud, ac mae'n dda gweld y cyngor yn gofyn i'r cyhoedd am syniadau.
Er mwyn rhoi hwb i brosesau adfywio, mae'n hollbwysig bod y cyngor yn datblygu dull gweithredu newydd a chyffrous, ac rwy'n annog pawb sydd â barn ar y mater hwn i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Mae Cyngor Conwy eisoes wedi dangos ei ymrwymiad i hyrwyddo'r sir fel lleoliad diwylliannol, a'r mis diwethaf fe gyflwynodd y Cyngor datganiad o ddiddordeb i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025.
Mae croeso i bawb gymryd rhan yn yr ymgynghoriad waeth a ydych yn breswylydd lleol, yn ymwelydd, yn sefydliad lleol neu os ydych yn gweithio'n lleol.
I leisio'ch barn am y Strategaeth Ddiwylliannol ddrafft ar gyfer Conwy, ewch i'r wefan www.conwy.gov.uk/culturestrategy.
Os oes gennych unrhyw gwestiwn, ffoniwch y Cyngor ar 01492 576139 neu e-bostiwch [email protected]