Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales is urging people to get together and enjoy a cuppa and a cake to raise money for Dementia UK.
‘Time for a Cuppa’ is Dementia UK’s annual tea party fundraising event and is being held from May 1-8, although organisers are encouraging people to take part throughout the whole of the month.
Mr Rowlands , a keen supporter of Dementia UK said:
As we approach Dementia Action Week I am now calling on my constituents to get together and take part in the Dementia UK’s ‘Time for a Cuppa’ campaign running through the month of May.
The annual tea party fundraising event helps to raise money to help more families access the life changing support of specialist dementia nurses.
As a Member of the Welsh Parliament for North Wales I continue to back moves to make the Senedd more dementia friendly and I am always happy to support and help to highlight this disease.
Dementia Action Week is an awareness raising campaign. Each year, the charity works with individuals and organisations across the UK to encourage people to ‘act on dementia’.
In 2022, Dementia Action Week encouraged people who are concerned that they or someone they know may be experiencing dementia symptoms to seek further help. Dementia UK provided information on memory loss, advice on talking to the GP, and ways to cope with memory loss.
Throughout the week, they saw a 43% average increase in calls to their dementia support line from those seeking information and support.
To support the campaign, a free drop-in event has been organised for people living with dementia, their carers, professionals and anyone else interested in finding out more about Dementia and the services available in Conwy County.
During the session there will be a number of services and organisations offering advice and support including: Conwy Telecare; Conwy Community Wellbeing Team; North Wales Police; Conwy Libraries; Welfare Rights; Occupational Therapy; North Wales Dementia Centre; Llys Elian and the Alzheimer’s Society.
The Dementia Information Day will take place at Coed Pella, Colwyn Bay on Wednesday May 17 from 10am-2.30pm.For more information about Dementia Action week go to Dementia Action Week | Alzheimer's Society (alzheimers.org.uk)
Sam Rowlands yn galw ar etholwyr i gefnogi digwyddiad elusennol mawr fis nesaf
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros ranbarth y gogledd, yn annog pobl i ddod at ei gilydd i fwynhau paned a chacen i godi arian i Dementia UK.
'Amser Paned' yw digwyddiad codi arian te parti blynyddol Dementia UK ac mae'n cael ei gynnal rhwng 1-8 Mai, er bod y trefnwyr yn annog pobl i gymryd rhan gydol y mis.
Dywedodd Mr Rowlands, sy’n un o gefnogwyr brwd Dementia UK:
Wrth i ni nesáu at Wythnos Gweithredu Dementia rwy’n galw ar fy etholwyr i ddod at ei gilydd a chymryd rhan yn ymgyrch ‘Amser Paned' Dementia UK sy'n cael ei chynnal gydol fis Mai.
Mae'r digwyddiad te parti blynyddol i godi arian yn helpu mwy o deuluoedd i gael mynediad at gymorth nyrsys dementia arbenigol sy'n newid bywydau.
Fel Aelod o’r Senedd dros ranbarth y gogledd rwy'n parhau i gefnogi symudiadau i wneud y Senedd yn lle sy’n deall dementia ac rwyf bob amser yn hapus i gefnogi a helpu i ddwyn sylw at y clefyd hwn.
Mae’r Wythnos Gweithredu Dementia yn ymgyrch i godi ymwybyddiaeth. Bob blwyddyn, mae'r elusen yn gweithio gydag unigolion a sefydliadau ledled y DU i annog pobl i 'weithredu ar ddementia'.
Yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia 2022, cafodd pobl oedd yn poeni y gallen nhw neu rywun maen nhw'n ei adnabod fod yn profi symptomau dementia eu hannog i ofyn am gymorth pellach. Roedd Dementia UK yn cynnig gwybodaeth am golli cof, cyngor ar siarad â'r meddyg teulu, a ffyrdd o ymdopi â cholli cof.
Drwy gydol yr wythnos, gwelsant gynnydd o 43% ar gyfartaledd yn nifer y galwadau i'w llinell gymorth dementia gan rai oedd yn chwilio am wybodaeth a chefnogaeth.
I gefnogi'r ymgyrch, trefnwyd digwyddiad galw heibio am ddim ar gyfer pobl sy'n byw gyda dementia, eu gofalwyr, gweithwyr proffesiynol ac unrhyw un arall sydd â diddordeb mewn gwybod mwy am Ddementia a'r gwasanaethau sydd ar gael yn Sir Conwy.
Yn ystod y sesiwn bydd nifer o wasanaethau a sefydliadau yn cynnig cyngor a chymorth gan gynnwys: Teleofal Conwy; Tîm Llesiant Cymunedol Conwy; Heddlu Gogledd Cymru; Llyfrgelloedd Conwy; Hawliau Lles; Therapi Galwedigaethol; Canolfan Dementia Gogledd Cymru; Llys Elian a'r Gymdeithas Alzheimer’s.
Cynhelir y Diwrnod Gwybodaeth Dementia yng Nghoed Pella, Bae Colwyn ddydd Mercher 17 Mai rhwng 10am-2.30 pm. Am ragor o wybodaeth am Wythnos Gweithredu Dementia ewch i Wythnos Gweithredu Dementia | Cymdeithas Alzheimer’s (alzheimers.org.uk)