Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging female farmers in his region to take part in a national competition.
Mr Rowlands, a keen supporter of the farming sector, is backing NFU Cymru who along with NFU Mutual have launched a search to find the 25th Wales Woman Farmer of the Year.
He said:
This is a wonderful opportunity for female farmers in North Wales to take part in the annual competition and help celebrate its 25th anniversary.
The search is on to find the Wales Woman Farmer of the Year and once again highlight the important contribution they make in the Welsh farming industry.
We have many talented and hard working women working in farming across North Wales and I would urge them to apply.
NFU Cymru Deputy President Abi Reader, a former winner of the award who will be one of this year’s judges, said: “The Wales Woman Farmer of the Year Award is there to champion the contribution that women make to farming businesses and wider rural life. Over the past 25 years we have had a variety of winners, all representing different sectors and parts of the farming industry, and we look forward to receiving applications for the 2023 title and celebrating the 25th anniversary of this great award.”
Lona Davies, NFU Cymru & NFU Mutual Group Secretary, who will be judging alongside Abi Reader said:
For generations women have played a crucial role in Welsh agriculture, from running farm businesses to leading diversification enterprises to increase farm income and NFU Mutual is proud to support this award. We hope the award inspires other women in Wales to take centre stage and influence farming in the future.
The winner of the NFU Cymru/NFU Mutual Wales Woman Farmer of the Year 2023 award will receive £500 and a Welsh Royal Crystal bowl.
If you are interested in entering, or know someone who you think is worthy of a nomination for the title of Wales Woman Farmer of the Year 2023, please visit the NFU Cymru website or contact the NFU Cymru office by telephoning 01982 554200 or emailing [email protected].
The closing date for the competition is Monday May 29 2023.
Sam Rowlands yn cefnogi Gwobr Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o Senedd Cymru dros Ogledd Cymru, yn annog ffermwyr benywaidd yn ei ranbarth i gymryd rhan mewn cystadleuaeth genedlaethol.
Mae Mr Rowlands, sy'n gefnogwr brwd o'r sector ffermio, yn cefnogi NFU Cymru, sydd, ynghyd ag NFU Mutual, wedi lansio ymgyrch i ddod o hyd i 25ain Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn Cymru.
Meddai:
Mae hwn yn gyfle gwych i ffermwyr benywaidd yng Ngogledd Cymru gymryd rhan yn y gystadleuaeth flynyddol a helpu i ddathlu 25 mlwyddiant y gystadleuaeth.
Mae'r amser wedi dod i chwilio am Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn yng Nghymru a thynnu sylw unwaith eto at y cyfraniad pwysig maen nhw'n ei wneud yn y diwydiant ffermio yng Nghymru.
Mae gennym ni lawer o ferched dawnus a gweithgar yn gweithio ym myd ffermio ledled y gogledd a byddwn yn eu hannog i ymgeisio.
Dywedodd Dirprwy Lywydd NFU Cymru, Abi Reader, cyn-enillydd y wobr ac un o’r beirniaid eleni: "Mae Gwobr Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn Cymru yno i hyrwyddo cyfraniad menywod mewn busnesau ffermio ac at fywyd gwledig yn ehangach. Dros y 25 mlynedd diwethaf rydyn ni wedi cael amrywiaeth o enillwyr, pob un yn cynrychioli gwahanol sectorau a rhannau o'r diwydiant ffermio, ac edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau ar gyfer teitl 2023 a dathlu 25ain pen-blwydd y wobr wych hon."
Dywedodd Lona Davies, Ysgrifennydd Grŵp NFU Cymru ac NFU Mutual, a fydd yn beirniadu ochr yn ochr ag Abi Reader:
Ers cenedlaethau, mae menywod wedi chwarae rhan hanfodol yn amaethyddiaeth Cymru, o redeg busnesau fferm i arwain mentrau arallgyfeirio i gynyddu incwm ffermydd ac mae NFU Mutual yn falch o gael cefnogi'r wobr hon. Rydyn ni'n gobeithio bod y wobr yn ysbrydoli merched eraill yng Nghymru i gael y sylw maen nhw’n ei haeddu ac i ddylanwadu ar ffermio yn y dyfodol.
Bydd enillydd gwobr Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn Cymru 2023 NFU Cymru/NFU Mutual yn derbyn £500 a phowlen Grisial Brenhinol Cymru.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn rhoi cynnig arni, neu os ydych chi’n adnabod rhywun fyddai, yn eich barn chi, yn haeddu cael ei henwebu ar gyfer teitl Ffermwr Benywaidd y Flwyddyn Cymru 2023, ewch i wefan NFU Cymru neu cysylltwch â swyddfa NFU Cymru trwy ffonio 01982 554200 neu e-bostio [email protected].
Dyddiad cau'r gystadleuaeth yw dydd Llun 29 Mai 2023.