Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is encouraging his constituents to take more control of their energy use.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government was commenting after attending an energy and cost of living drop-in event at the Welsh Parliament.
He said:
I was delighted to attend the event and meet with industry experts who were able to explain all about the use of smart meters and how they can help us all to control our energy use.
I know many of my constituents are worried about rising costs and it was interesting to hear about the small changes we can all make to help reduce our energy usage and save money.
It is definitely worth looking on Smart Energy GB website for some helpful tips and advice.
During the event Smart Energy GB explained how smart meters are one simple way for people to get more control over their energy use and help secure energy systems for the future.
For more information go to https://tinyurl.com/SEGBTips.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at fanteision defnyddio mesuryddion clyfar
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn annog ei etholwyr i gymryd mwy o reolaeth dros eu defnydd o ynni.
Gwnaeth Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, y sylwadau ar ôl galw heibio i ddigwyddiad ynni a chostau byw yn y Senedd.
Meddai:
Roeddwn i wrth fy modd yn mynychu'r digwyddiad a chwrdd ag arbenigwyr o'r diwydiant a oedd yn gallu egluro pob un dim am ddefnyddio mesuryddion clyfar a sut y gallan nhw ein helpu ni i gyd i reoli ein defnydd o ynni.
Rwy'n gwybod bod llawer o’m hetholwyr yn poeni am gostau cynyddol ac roedd yn ddiddorol clywed am y newidiadau bach y gallwn ni i gyd eu gwneud i helpu i leihau ein defnydd o ynni ac arbed arian.
Mae'n bendant yn werth edrych ar wefan Smart Energy GB am awgrymiadau a chyngor defnyddiol.
Yn ystod y digwyddiad esboniodd Smart Energy GB sut mae mesuryddion clyfar yn un ffordd syml sy’n helpu pobl i gael mwy o reolaeth dros eu defnydd o ynni ac yn helpu i sicrhau systemau ynni ar gyfer y dyfodol.
Am ragor o wybodaeth ewch i https://tinyurl.com/SEGBTips.