Sam Rowlands MS for North Wales has praised a local race course for attracting thousands of visitors each year.
Mr Rowlands MS was commenting during a visit to Bangor-on-Dee racecourse in North Wales, along with fellow politicians, Gareth Davies MS who represents the Vale of Clwyd and North Wales regional MS, Llŷr Gruffydd.
He said:
I was delighted to be shown around Bangor-on Dee racecourse and to see what happens on race days. I was very impressed with what I saw and it was great to meet with representatives from the British Horseracing Authority, who enforce the horse racing rules, to discuss the future of racing in North Wales.
It is a wonderful venue, and a real jewel in the crown for North Wales. Like every tourist attraction the racecourse has had to deal with the fall-out from Covid but it was good to see how it is bouncing back.
The course is owned by the Chester race Company which also runs the highly successful Chester Racecourse, just over the border in Chester.
It is an extremely popular racecourse and on a big meeting can attract over 5,000 people which is amazing. It is also family friendly and all ages can have a good day out.
I also had the opportunity to visit the training yard of Oliver Greenall, a licensed trainer for both flat and national hunt, who regularly has runners at Bangor-on-Dee.
It was all very fascinating and I was pleased to visit such a successful attraction and appreciate the contribution it makes to the local economy.
Bangor-on-Dee racecourse was established in February 1859 and is set in glorious countryside overlooked by the Welsh hills and it attracts many of the top trainers including Donald Mc Cain, Nicky Henderson and Jonjo O’Neill.
Apart from holding regular race meetings it is also a perfect venue for conferences, team-building exercises, specialised dining events and weddings.
Sam Rowlands AS yn canmol Cae Ras Bangor Is-coed am ei lwyddiant parhaus
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, wedi canmol cae ras lleol am ddenu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
Roedd Mr Rowlands AS yn siarad yn ystod ymweliad â chae ras Bangor Is-coed yng Ngogledd Cymru gyda'i gyd-wleidyddion, Gareth Davies AS sy'n cynrychioli Dyffryn Clwyd, ac AS rhanbarthol Gogledd Cymru, Llŷr Gruffydd.
Meddai:
Roeddwn wrth fy modd yn cael fy nhywys o gwmpas cae ras Bangor Is-coed a gweld beth sy'n digwydd ar ddiwrnod ras. Fe wnaeth yr hyn a welais greu argraff fawr arna i, ac roedd yn braf cael cyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr o Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain, sy'n gyfrifol am weithredu’r rheolau rasio ceffylau, i drafod dyfodol rasio yn y Gogledd.
Mae'n lleoliad gwych, ac yn un o brif drysorau Gogledd Cymru. Fel pob atyniad i dwristiaid, mae'r cae ras wedi gorfod ymdopi ag effeithiau Covid, ond roedd yn dda gweld sut mae'n adfer ar ôl y pandemig.
Chester Race Company sy'n berchen ar y cwrs, ac mae'r un cwmni yn rhedeg Cae Ras Caer, sy'n lleoliad hynod lwyddiannus ychydig dros y ffin yng Nghaer.
Mae'n gae ras hynod boblogaidd sy'n gallu denu dros 5,000 o bobl i'r digwyddiadau mawr. Mae'n addas i deuluoedd hefyd, ac mae pobl o bob oed yn gallu cael llawer o hwyl yno.
Hefyd, fe ges i'r cyfle i ymweld â chanolfan hyfforddi Oliver Greenall, hyfforddwr trwyddedig ar gyfer rasio tir gwastad a chenedlaethol. Mae llawer o geffylau Oliver yn rasio'n rheolaidd ar gwrs Bangor Is-goed.
Roedd y cyfan yn ddiddorol iawn ac roeddwn wrth fy modd yn ymweld ag atyniad mor llwyddiannus a gwerthfawrogi ei gyfraniad at yr economi leol.
Sefydlwyd cae ras Bangor Is-coed ym mis Chwefror 1859 ac mae wedi'i leoli mewn ardal wledig hynod drawiadol, gyda bryniau Cymru yn y pellter. Mae'n denu llawer o'r prif hyfforddwyr gan gynnwys Donald McCain, Nicky Henderson a Jonjo O'Neill.
Yn ogystal â chynnal digwyddiadau rasio rheolaidd, mae'n lleoliad perffaith ar gyfer cynadleddau, ymarferion datblygu tîm, digwyddiadau bwyta arbenigol a phriodasau.