Sam Rowlands MS for North Wales got on his bike to discover more about active travel in Denbighshire.
Mr Rowlands and his fellow MS, Gareth Davies, who represents the Vale of Clwyd, recently met with representatives of Sustran Cymru, who are part of a UK wide charity promoting active travel such as travelling on foot or by bicycle.
He said:
I was delighted to meet up with Sustan Cymru’s Director and Active Journeys Officer for Denbighshire, Christine Boston and Gwen Thomas, respectively, to look at some of the local active travel routes and find out more about the opportunities and challenges for active travel in Wales.
As part of the national scheme local authorities are required to have a map of routes planned for active travel upgrades.
We walked from Rhyl Marina along Route 784 to Rhuddlan. We also took to the saddle to see the National Cycle Network Routes 5, along the North Wales Coast and Route 84, from Rhyl to Rhuddlan and St Asaph.
It was fascinating to hear what routes are now available in the county and full praise should go to the authority for what they have been able to do so far.
Active travel is not just important for the fight against climate change and reducing air pollution. It is also great for our physical health and wellbeing and I am happy to support any measures to encourage more people to walk and cycle.
In Sustrans Cymru 2021 Manifesto the organisation’s vision for Tomorrow’s Wales imagines a society in which everyone is able to walk or cycle in their neighbourhoods.
It includes investing in safe and healthy travel, inspiring future generations to walk or cycle and transport for everyone.
The Active Journeys Programme in Wales is also encouraging children to confidently, easily and safely travel to school by foot, bike or scooter.
Ysgol Llewellyn in Rhyl, has already taken up the challenge and has achieved Bronze and Silver Active Travel School Awards. These are awarded to schools who have worked to bring about organisational, cultural and behavioural changes which help the school community choose to travel in more active and sustainable ways.
The school promoted active travel to school through events, classroom work, and the installation of cycle and scooter storage, with help from Denbighshire County Council.
Sam Rowlands AS yn cefnogi cynlluniau i helpu i wneud Cymru yn lle iachach a hapusach
Mae Sam Rowlands, AS ar gyfer Gogledd Cymru, wedi mentro allan ar ei feic i ddysgu mwy am deithio llesol yn Sir Ddinbych.
Yn ddiweddar, fe gafodd Mr Rowlands a'i gyd AS, Gareth Davies, sy'n cynrychioli Dyffryn Clwyd, gyfle i gyfarfod â chynrychiolwyr o Sustrans Cymru, sy'n rhan o elusen ledled y DU sy'n hyrwyddo teithio llesol fel cerdded neu feicio.
Meddai:
Roeddwn wrth fy modd yn cyfarfod â Chyfarwyddwr Sustrans Cymru, Christine Boston, a Swyddog Teithiau Llesol Sir Ddinbych, Gwen Thomas, i edrych ar rai o'r llwybrau teithio llesol lleol a dysgu mwy am y cyfleoedd a'r heriau ar gyfer teithio llesol yng Nghymru.
Fel rhan o'r cynllun cenedlaethol, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol lunio map o'r llwybrau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer uwchraddio teithio llesol.
Fe aethom ati i gerdded o Farina'r Rhyl ar hyd Llwybr 784 i Ruddlan. Fe gawsom gyfle hefyd i feicio ar hyd rhan o Lwybr 5 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol ar hyd Arfordir y Gogledd, a rhan o Lwybr 84, o'r Rhyl i Ruddlan a Llanelwy.
Roedd yn ddiddorol iawn clywed pa lwybrau sydd ar gael yn y sir, a rhaid rhoi pob clod i'r awdurdod am ei waith hyd yma yn y maes hwn.
Mae teithio llesol yn bwysig iawn i'r frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd a lleihau llygredd aer. Hefyd, mae'n bwysig i'n hiechyd a'n lles corfforol, ac rwy'n hapus i gefnogi unrhyw fesurau i annog mwy o bobl i gerdded a beicio.
Mae Cymru Yfory, sef gweledigaeth yr elusen Sustrans Cymru yn ei Maniffesto ar gyfer 2021, yn disgrifio cymdeithas lle gall pawb gerdded neu feicio yn eu cymdogaeth.
Mae'n cynnwys buddsoddi mewn teithio diogel ac iach, ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol i gerdded neu feicio a thrafnidiaeth i bawb.
Mae'r Rhaglen Teithiau Llesol yng Nghymru hefyd yn annog plant i deithio'n hyderus, yn hawdd ac yn ddiogel i'r ysgol ar droed, ar feic neu ar sgwter.
Mae Ysgol Llewellyn yn y Rhyl eisoes wedi ymgymryd â'r her, ac mae wedi ennill Gwobrau Efydd ac Arian fel rhan o’r Cynllun Ysgolion Teithio Llesol. Mae'r gwobrau hyn yn cael eu dyfarnu i ysgolion sydd wedi gweithio i sicrhau newidiadau sefydliadol, diwylliannol ac ymddygiadol sy'n helpu cymuned yr ysgol i ddewis teithio mewn ffyrdd mwy egnïol a chynaliadwy.
Fe aeth yr ysgol ati i hyrwyddo teithio llesol trwy gynnal digwyddiadau, gwneud gwaith dosbarth, a gosod mannau storio beiciau a sgwteri, diolch i gymorth gan Gyngor Sir Ddinbych.