Sam Rowlands MS for North Wales is urging people to get together and enjoy a cuppa and a cake to raise money for Tenovus Cancer Care.
As an MS for North Wales I am always happy to support any fundraising campaigns which help to highlight the work of a charity.
I am now calling on my constituents to get together and show their support by taking part in the ‘Tea for Ten’ campaign, by holding coffee mornings, tea parties or cake sales from July 3-16.
The campaign will once again raise vital funds for Tenovus Cancer Care and what better way to help the cause by enjoying a slice of cake and a cuppa with friends.
According to the statistics, 1 in 10 Cancer patients seek advice from a mental health professional and if you have cancer or you are close to someone who has, then Tenovus Cancer Care can help. It runs a free Cancer Callback service, for those diagnosed with cancer to seek support as they go through treatment, with the phone support coming from a dedicated nurse.
The organisation brings treatment, emotional support and practical advice to where it matters the most; the heart of the community. Last year 1,117 clients were supported by the Tenovus Benefits Advice team; 1,990 treatments were delivered through Mobile Support Units and 2,985 outbound calls were made by Support Line nurses.
Sam Rowlands yn galw ar etholwyr i gefnogi digwyddiad mawr gan elusen ganser fis nesaf
Mae Sam Rowlands AS Gogledd Cymru yn annog pobl i ddod at ei gilydd a mwynhau paned a chacen i godi arian ar gyfer Gofal Canser Tenovus.
Fel Aelod o'r Senedd dros y Gogledd, rwyf bob amser yn hapus i gefnogi unrhyw ymgyrchoedd codi arian sy'n helpu i dynnu sylw at waith elusen.
Rwy’n galw ar fy etholwyr i ddod at ei gilydd a dangos eu cefnogaeth drwy gymryd rhan yn ymgyrch 'Tea fod Ten', drwy gynnal boreau coffi, partïon te neu werthu cacennau rhwng 3-16 Gorffennaf.
Bydd yr ymgyrch unwaith eto'n codi arian hanfodol ar gyfer Gofal Canser Tenovus a pha ffordd well o helpu'r achos drwy fwynhau tamaid o gacen a phaned gyda ffrindiau.
Yn ôl yr ystadegau, mae 1 o bob 10 o gleifion canser yn gofyn am gyngor gan weithiwr iechyd meddwl proffesiynol ac os oes gennych chi neu rywun agos i chi ganser, yna gall Gofal Canser Tenovus helpu. Mae'n rhedeg gwasanaeth ffonio'n ôl am ddim, i'r rhai sy'n cael diagnosis o ganser ac sydd eisiau cymorth wrth fynd trwy driniaeth, gyda chymorth dros y ffôn gan nyrs bwrpasol.
Mae'r sefydliad yn dod â thriniaeth, cefnogaeth emosiynol a chyngor ymarferol i'r mannau pwysicaf oll; calon y gymuned. Y llynedd cafodd 1,117 o gleientiaid gymorth gan dîm Cyngor Budd-daliadau Tenovus; darparwyd 1,990 o driniaethau drwy Unedau Cymorth Symudol a gwnaed 2,985 o alwadau gan nyrsys Llinell Gymorth.