We recently marked the 75th anniversary of the National Health Service.
Established in the years after World War Two, it was the first health service of its kind in the Western world.
A lot has changed since then. For one, we now have a devolved system. From 1999, the NHS in Wales has been controlled by the Welsh Government in Cardiff – not the UK Government in London.
The Welsh Government has been controlled by Labour for every single second since the establishment of that Welsh Government. The NHS in Wrexham and across Wales is Labour’s responsibility.
It’s fair to say the NHS here is not in great health as celebrates its 75th birthday.
Let’s have a look at some of the ailments. Betsi Cadwaladr Health Board, which oversees us in North Wales, it has been described as “dysfunctional” in a recent report by the Auditor General.
A recent Ernst & Young investigation into the Board showed a rotten culture where highly-paid senior staff were misleading investigators and falsifying documents.
We also know the Board has been in special measures for many years (apart from when Labour took it out just before the last Welsh Parliament elections) with little sign of any concrete improvement.
This past winter, the Board had to declare a critical emergency twice because it simply could not cope with the demand. Looking at dentistry, it is virtually impossible for new patients in North Wales to get an NHS dentist.
I had previously contacted 69 NHS dentists in our region and spoke to 57 of those practices.
In all of North Wales, with a population of 700,000 people, not one NHS dental practice was able to take on new patients, with just four offering a place on a waiting list, likely to be over two years.
Other statistics are just as shocking. The Welsh NHS has 2-year waiting lists of around 30,000.
This number is virtually zero in England and Scotland. The British Medical Association recently warned that Welsh Labour’s health service is at a ‘risk of collapse’.
Incredibly, the Labour Cardiff Government are the only Government across Britain to cut NHS spending in modern times – not the Conservative Government in London.
You have to wonder what the founder of the National Health Service, Labour’s Aneurin Bevan, would have made of this sorry state of affairs.
People are suffering unnecessarily, languishing in pain on horrendous waiting lists and not being able to access the basic care that they need.
Despite Labour’s mismanagement, there is no doubt that the people who work hard in the NHS as doctors, nurses and staff deserve huge credit. I am proud that my brother and sister are both NHS nurses here in North Wales and they are like many others who have played their part in helping people in our communities when they’re most in need.
For me, the NHS has been brilliant at some important moments; from the births of my three children, to my brother-in-law in intensive care with COVID, right through to those providing the care for my grandparents in their final days.
The vast range of challenges faced and support given by the NHS in Wales on any given day is mind-boggling, and those staff deserve our utmost support.
It’s obvious, however, that patients and staff are not always getting what they need. They are being let down by a government in Cardiff – and we need drastic change to fix the problem.
From founding the National Health Service to running it into the ground, that is the legacy of the Labour Party here in Wales. The evidence to me is clear. We all know what the first step to a Welsh NHS revival is, and that is the removal of Labour from office.
Barn Sam Rowlands – Wrexham.com
Yn ddiweddar, dathlwyd 75 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
Wedi'i sefydlu yn y blynyddoedd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, hwn oedd y gwasanaeth iechyd cyntaf o'i fath yn y byd Gorllewinol.
Mae llawer wedi newid ers hynny. Yn un peth, mae gennym system ddatganoledig erbyn hyn. Ers 1999, mae'r GIG yng Nghymru wedi cael ei reoli gan Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd - nid Llywodraeth y DU yn Llundain.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cael ei rheoli gan Lafur am bob eiliad ers ei sefydlu. Cyfrifoldeb Llafur yw’r GIG yn Wrecsam ac yng ngweddill Cymru.
Mae'n deg dweud nad yw'r GIG mewn iechyd gwych ar hyn o bryd wrth iddo ddathlu ei ben-blwydd yn 75 oed.
Gadewch i ni edrych ar rai o'r problemau. Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n ein goruchwylio ni yma yn y Gogledd, wedi cael ei ddisgrifio fel un sy’n "camweithredu" mewn adroddiad diweddar gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Dangosodd ymchwiliad diweddar gan Ernst & Young bod gan y Bwrdd ddiwylliant llygredig lle'r oedd uwch staff ar gyflog uchel yn camarwain ymchwilwyr ac yn ffugio dogfennau.
Rydyn ni hefyd yn gwybod bod y Bwrdd wedi bod dan fesurau arbennig ers blynyddoedd lawer (ar wahân i'r adeg pan gododd Llafur y mesurau arbennig ychydig cyn etholiadau diwethaf y Senedd) heb fawr o arwydd o unrhyw welliant pendant.
Y gaeaf diwethaf hwn, bu'n rhaid i'r Bwrdd ddatgan argyfwng critigol ddwywaith oherwydd na allai ymdopi â'r galw. O edrych ar ddeintyddiaeth, mae bron yn amhosibl i gleifion newydd yn y Gogledd gael deintydd y GIG.
Cyn hynny roeddwn i wedi cysylltu â 69 o ddeintyddion y GIG yn ein rhanbarth a siarad gyda 57 o'r deintyddfeydd hynny.
Ar draws y Gogledd, sydd â phoblogaeth o 700,000 o bobl, doedd dim un deintyddfa’r GIG yn gallu derbyn cleifion newydd, gyda dim ond pedwar yn cynnig lle ar restr aros, gyda’r tebygolrwydd o orfod aros dwy flynedd a mwy.
Mae ystadegau eraill yr un mor frawychus. Mae tua 30,000 o bobl ar restrau aros o 2 flynedd.
Mae'r nifer hwn bron yn sero yn Lloegr a'r Alban. Rhybuddiodd Cymdeithas Feddygol Prydain yn ddiweddar fod gwasanaeth iechyd Llafur Cymru mewn 'perygl o ddymchwel'.
Yn anhygoel, Llywodraeth Lafur Caerdydd yw'r unig Lywodraeth ar draws Prydain i dorri gwariant y GIG yn yr oes fodern - nid y Llywodraeth Geidwadol yn Llundain.
Mae'n rhaid i chi feddwl tybed beth fyddai sylfaenydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Aneurin Bevan o'r Blaid Lafur, wedi ei wneud o'r sefyllfa druenus hon.
Mae pobl yn dioddef yn ddiangen mewn poen ar restrau aros erchyll ac yn methu cael gafael ar y gofal sylfaenol sydd ei angen arnyn nhw.
Er gwaethaf camreoli Llafur, does dim dwywaith bod y bobl sy'n gweithio'n galed yn y GIG fel meddygon, nyrsys a staff yn haeddu clod enfawr. Rwy'n falch bod fy mrawd a'm chwaer ill dau yn nyrsys GIG yma yng Ngogledd Cymru ac maen nhw fel llawer o rai eraill sydd wedi chwarae eu rhan wrth helpu pobl yn ein cymunedau pan fyddant yn yr angen mwyaf.
I mi, mae'r GIG wedi bod yn wych ar adegau pwysig; o enedigaethau fy tri phlentyn, i ban oedd fy mrawd yng nghyfraith mewn gofal dwys gyda COVID, i'r rhai sy'n darparu'r gofal i’m nain a thaid yn eu dyddiau olaf.
Mae'r ystod eang o heriau sy’n wynebu’r GIG yng Nghymru a’r cymorth y mae’n ei gynnig ar unrhyw ddiwrnod penodol yn syfrdanol, ac mae'r staff yn haeddu ein cefnogaeth fwyaf.
Mae'n amlwg, fodd bynnag, nad yw cleifion a staff bob amser yn cael yr hyn sydd ei angen arnyn nhw. Maen nhw'n cael eu siomi gan lywodraeth yng Nghaerdydd - ac mae angen newid pethau’n llwyr arnom ni i ddatrys y broblem.
O sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol i'w redeg i'r wal, dyna etifeddiaeth y Blaid Lafur yma yng Nghymru. Mae'r dystiolaeth i mi yn glir. Rydyn ni i gyd yn gwybod beth yw'r cam cyntaf i adfer y GIG yng Nghymru, a hynny yw cael gwared ar Lywodraeth Lafur.