Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that blood test appointments are being drastically reduced in Wrexham.
Mr Rowlands, who has often criticised Betsi Cadwaladr University Health Board said:
It is great to hear something positive from the health board and good news for people, who in the past, have had to wait weeks for blood test appointments.
The waiting list has now been reduced from six weeks to just three days with the introduction of a new unit at Wrexham Maelor Hospital, which is very welcome.
It was very disappointing during the pandemic to see waiting times for blood tests increasing but this latest move will help to keep on top of the demands for patients in the Wrexham area.
The new Phlebotomy Unit called Ty Madoc, has opened at Wrexham Maelor Hospital with six new chairs for patients to have their bloods taken. It also offers evening appointments.
Due to the pandemic blood test waiting times increased to an average of six weeks as fewer locations offered appointments. Since opening, 15,000 blood tests are done every month in Wrexham alone, helping to reduce the waiting times for patients.
Deborah Brockley, Phlebotomy Services Manager at Wrexham Maelor Hospital, said: “We’re delighted as a service to be able to enhance the facilities that we can offer and to give our patients more options to have a blood test appointment for when it’s convenient for them.”
The new unit is based near the Red Cross Cabin, at Entrance B of Wrexham Maelor Hospital, on Croesnewydd Road. The Grove Road Phlebotomy Clinic, in Wrexham, is now closed.
The hospital also plans to open three extra phlebotomy chairs later this year in the new Plas Gororau building to further support the service and ensure patients are seen as soon as possible.
Sam Rowlands AS yn falch o weld uned newydd yn helpu i ostwng amseroedd aros ar gyfer profion gwaed
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion bod yr amser aros am apwyntiadau profion gwaed yn Wrecsam yn dod i lawr yn sylweddol.
Meddai Mr Rowlands, sydd yn aml wedi beirniadu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:
Mae'n wych clywed rhywbeth cadarnhaol gan y bwrdd iechyd a newyddion da i bobl, sydd wedi gorfod aros am wythnosau yn y gorffennol cyn cael apwyntiad am brawf gwaed.
Mae'r rhestr aros bellach wedi'i lleihau o chwe wythnos i ddim ond tri diwrnod gyda’r uned newydd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae hyn i'w groesawu'n fawr.
Roedd hi'n siomedig iawn yn ystod y pandemig i weld amseroedd aros am brofion gwaed yn cynyddu ond bydd y cam diweddaraf yma yn helpu i gael trefn ar y galw gan gleifion yn ardal Wrecsam.
Mae'r Uned Fflebotomi newydd, o'r enw Tŷ Madoc, wedi agor yn Ysbyty Maelor Wrecsam gyda chwe chadair newydd i gymryd gwaed gan gleifion. Mae hefyd yn cynnig apwyntiadau gyda'r nos.
Cynyddodd amseroedd aros ar gyfer profion gwaed i chwe wythnos ar gyfartaledd yn ystod y pandemig wrth i lai o leoliadau gynnig apwyntiadau. Ers i’r uned newydd agor, mae 15,000 o brofion gwaed yn cael eu cynnal bob mis yn Wrecsam yn unig, ac mae hyn yn helpu i leihau'r amseroedd aros i gleifion.
Dywedodd Deborah Brockley, Rheolwr Gwasanaethau Fflebotomi yn Ysbyty Maelor Wrecsam: "Rydyn ni wrth ein bodd fel gwasanaeth i allu gwella'r cyfleusterau y gallwn eu cynnig a rhoi mwy o opsiynau i'n cleifion gael apwyntiad prawf gwaed pan fydd yn gyfleus iddyn nhw."
Mae'r uned newydd wedi'i lleoli ger Caban y Groes Goch, wrth fynedfa B Ysbyty Maelor Wrecsam, ar Ffordd Croesnewydd. Mae Clinig Fflebotomi Grove Road, yn Wrecsam, bellach wedi cau.
Mae'r ysbyty hefyd yn bwriadu agor tair cadair fflebotomi ychwanegol yn ddiweddarach eleni yn adeilad newydd Plas Gororau i gefnogi'r gwasanaeth ymhellach a sicrhau bod cleifion yn cael eu gweld cyn gynted â phosib.