Commenting on the news that another council has stepped up to offer free school meals over the summer to those in need, Welsh Conservative Shadow Local Government Minister Sam Rowlands MS, said:
The Welsh Government’s funding formula for councils is a complete mess and leads to imbalances across Wales, particularly for local authorities in North Wales and rural areas.
Remember, the Welsh Government gets £1.20 from the UK Government to spend on public services for every £1 spent in England, so it’s clear that the Welsh Government are mismanaging their budgets.
After repeated warnings about the repercussions of cuts to the education budget and the pressures this would put on schools, the Welsh Government’s policy failures continue to impact pupils and staff in Wales. Instead of properly funding our schools, they have demonstrated that the Senedd expansion is more important to them than our children’s future.
Cynghorau'n camu i'r adwy i osgol codi cywilydd ar Lywodraeth Cymru
Wrth sôn am y newyddion bod cyngor arall wedi camu i'r adwy i gynnig prydau ysgol am ddim dros yr haf i'r rhai mewn angen, dywedodd Sam Rowlands AS, Gweinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol i’r Ceidwadwyr Cymreig:
Mae fformiwla ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer cynghorau yn llanast llwyr ac yn arwain at anghydbwysedd ledled Cymru, yn enwedig i awdurdodau lleol yng Ngogledd Cymru ac ardaloedd gwledig.
Cofiwch, mae Llywodraeth Cymru yn cael £1.20 gan Lywodraeth y DU i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus am bob £1 sy'n cael ei wario yn Lloegr, felly mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru yn camreoli eu cyllidebau.
Ar ôl un rhybudd ar ôl y llall ynghylch sgil-effeithiau toriadau i'r gyllideb addysg a'r pwysau y byddai hyn yn ei roi ar ysgolion, mae methiannau polisi Llywodraeth Cymru yn parhau i effeithio ar ddisgyblion a staff yng Nghymru. Yn hytrach na chyllido'n hysgolion yn iawn, maen nhw wedi dangos bod ehangu'r Senedd yn bwysicach iddyn nhw na dyfodol ein plant.