Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has slammed a Welsh Minister’s response to the UK Government’s offer to help cut NHS waiting lists in Wales.
This week the UK Government's Health and Social Care Secretary Steve Barclay invited Welsh and Scottish ministers for talks on how the UK can work together to tackle NHS waiting lists.
Mr Rowlands, a harsh critic of the way the Welsh Labour Government is failing to run the NHS in Wales said:
As a Welsh Conservative committed to the NHS I am so disappointed and angry at the way this Welsh Labour Government are so dismissive of any offers of help which could ultimately bring down our waiting lists. Surely they can get round the table and see if we can help each other.
We have over 73,000 people currently on a waiting list of almost two years for treatment which is totally unacceptable. Considering the NHS was started by a Welsh Labour politician it is appalling to see what is happening in Wales after 25 years of a Welsh Labour Government.
In my region of North Wales, the Betsi Cadwaldr University Health Board is currently in special measures again and still Welsh Government do nothing.
Unfortunately the response to the offer of help is typical and shows the sheer arrogance of this government.
Time and time again in Welsh Parliament, members have raised concerns and pointed out solutions but their comments fall on deaf ears. At the end of the day it is the people of Wales who are suffering and will continue to do so.
Sam Rowlands yn ‘ddig’ ynghylch yr ymateb i gynnig Llywodraeth y DU i helpu i gwtogi amseroedd aros GIG Cymru
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros y Gogledd, wedi beirniadu’n hallt ymateb Gweinidog Cymru i gynnig Llywodraeth y DU i helpu i gwtogi rhestrau aros y GIG yng Nghymru.
Yr wythnos hon, gwahoddodd Ysgrifennydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU, Steve Barclay, Weinidogion Cymru a'r Alban i drafod sut y gall y DU gydweithio i fynd i'r afael â rhestrau aros y GIG.
Meddai Mr Rowlands, beirniad llym o'r ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru yn methu â rhedeg y GIG yng Nghymru:
Fel Ceidwadwr Cymreig sy’n ymroddedig i'r GIG, dwi mor siomedig a dig ynglŷn â'r ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru mor ddi-hid ynghylch unrhyw gynigion o gymorth a allai ostwng ein rhestrau aros yn y pen draw. Siawns bod modd iddyn nhw ddod at ei gilydd a gweld a allwn ni helpu ein gilydd.
Mae gennym dros 73,000 o bobl ar restr aros o bron i ddwy flynedd am driniaeth ar hyn o bryd sy'n gwbl annerbyniol. O ystyried mai gwleidydd Llafur Cymru ddechreuodd y GIG, mae'n warthus gweld beth sy'n digwydd yng Nghymru ar ôl 25 mlynedd o Lywodraeth Lafur.
Yn fy rhanbarth i yn y Gogledd, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn mesurau arbennig eto ar hyn o bryd, a dyw Llywodraeth Cymru’n gwneud dim o hyd.
Yn anffodus mae'r ymateb i'r cynnig o gymorth yn nodweddiadol ac yn dangos haerllugrwydd llwyr y llywodraeth hon.
Dro ar ôl tro yn y Senedd, mae aelodau wedi mynegi pryderon ac wedi tynnu sylw at atebion ond mae eu sylwadau’n cael eu hanwybyddu. Ar ddiwedd y dydd pobl Cymru sy'n dioddef ac a fydd yn parhau i ddioddef.