Sam Rowlands MS for North Wales is calling on farmers in his Region to apply to become the NFU Cymru and NFU Mutual Dairy Stockperson of the Year.
He said:
As a keen supporter of Welsh farmers I welcome any opportunity to highlight all the hard work they do to keep the nation fed as I think it is vitally important to recognise the contribution our dairy stockpersons make to the Welsh dairy industry.
We all know that Wales produces some of the best quality beef and lamb in the world and it is great to see those who look after our cattle and sheep receiving recognition for their skills.
I would urge producers in my region of North Wales to enter the competition or nominate someone they know for this prestigious award.
NFU Cymru and NFU Mutual are looking for the tenth winner of the Welsh Dairy Stockperson of the Year Award to spotlight dedicated, committed and enthusiastic livestock persons from all across Wales. The award winner will receive a top prize of £500 and a Welsh slate engraved cheese board.
The award seeks to champion dedicated, committed and enthusiastic dairy stock managers from across Wales.
Jonathan Wilkinson, NFU Cymru Dairy Board Chairman said:
As a dairy farmer, I am very passionate out the agricultural industry and championing those individuals who go the extra mile to ensure they have happy, healthy cows is important.
The award aims to recognise the key role that a good dairy stockperson plays in a successful dairy enterprise and the Welsh dairy industry as a whole. Potential award winners will be judged on their care and management of the herd, the breeding programme, their handling skills, their involvement in the dairy enterprise and their knowledge of the dairy industry in Wales.
I would urge you all to nominate a dairy farmer or manager in your area who you believe deserves to be recognised for their work within the industry.
The closing date for entries is Monday September 25 and the winner will be announced at this year’s Welsh Dairy Show at the United Counties Showground, Carmarthen, on Tuesday October 24 2023.
For more information regarding the award please visit the NFU Cymru website where you can download an application form. Alternatively, you can email [email protected] or call the NFU Cymru office on 01982 554200.
Sam Rowlands AS o blaid chwilio am bencampwr stocmon cynnyrch llaeth cenedlaethol
Mae Sam Rowlands, AS Gogledd Cymru, yn galw ar ffermwyr yn ei Ranbarth i wneud cais i fod yn Stocmon Cynnyrch Llaeth y Flwyddyn NFU Cymru ac NFU Mutual.
Meddai:
Fel cefnogwr brwd i ffermwyr Cymru, rwy'n croesawu unrhyw gyfle i dynnu sylw at yr holl waith caled y maen nhw’n ei wneud i fwydo’r genedl ac rwy’n credu ei bod yn hanfodol bwysig cydnabod cyfraniad ein stocmyn llaeth i'r diwydiant llaeth yng Nghymru.
Rydyn ni i gyd yn gwybod bod Cymru'n cynhyrchu’r cig eidion a'r cig oen o'r ansawdd gorau yn y byd a gwych yw gweld sgiliau y rhai sy'n gofalu am ein gwartheg a'n defaid yn cael eu cydnabod.
Byddwn yn annog cynhyrchwyr yn fy rhanbarth yng Ngogledd Cymru i roi cynnig arni yn y gystadleuaeth neu enwebu rhywun y maen nhw’n ei adnabod ar gyfer y wobr fawreddog hon.
Mae NFU Cymru ac NFU Mutual yn chwilio am ddegfed enillydd Gwobr Stocmon Cynnyrch Llaeth y Flwyddyn Cymru i dynnu sylw at weithwyr da byw ymroddedig a brwdfrydig o bob rhan o Gymru. Bydd enillydd y wobr yn derbyn y brif wobr o £500 a bwrdd caws llechen Gymreig wedi’i ysgythru.
Mae'r wobr yn ceisio hyrwyddo rheolwyr stoc cynnyrch llaeth ymroddedig a brwdfrydig o bob rhan o Gymru.
Meddai Jonathan Wilkinson, Cadeirydd Bwrdd Llaeth NFU Cymru:
Fel ffermwr llaeth, rwy'n angerddol iawn am y diwydiant amaethyddol ac mae hyrwyddo'r unigolion hynny sy'n mynd yr ail filltir i sicrhau bod ganddyn nhw wartheg hapus ac iach yn bwysig.
Nod y wobr yw cydnabod y rôl allweddol y mae stocmon cynnyrch llaeth da yn ei chwarae mewn menter cynnyrch llaeth lwyddiannus a'r diwydiant cynnyrch llaeth yng Nghymru gyfan. Bydd ymgeiswyr yn cael eu pwyso a’u mesur ar sail eu gofal a'u rheolaeth o'r fuches, y rhaglen fridio, eu sgiliau trin, eu cyfranogiad yn y fenter cynnyrch llaeth a'u gwybodaeth am y diwydiant llaeth yng Nghymru.
Byddwn yn eich annog i enwebu ffermwr neu reolwr cynnyrch llaeth yn eich ardal sydd, yn eich barn chi, yn haeddu cael ei gydnabod am ei waith yn y diwydiant.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Llun 25 Medi a chyhoeddir yr enillydd yn Sioe Laeth Cymru eleni ar faes Sioe y Siroedd Unedig, Caerfyrddin, ddydd Mawrth 24 Hydref 2023.
Am ragor o wybodaeth am y wobr, ewch i wefan NFU Cymru lle gallwch lawrlwytho ffurflen gais. Fel arall, gallwch e-bostio [email protected] neu ffonio swyddfa NFU Cymru ar 01982 554200.