Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has shown his support for horseracing in Wales.
Mr Rowlands, recently joined fellow members at a National Racehorse Week drop-in event at the Senedd hosted by the British Horseracing Authority.
He said:
It was great to have the opportunity to learn more about National Racehorse Week, which provides a unique opportunity for members of the public to visit yards and spent time with thoroughbred racehorses.
The Welsh racing industry is a key contributor to our rural economy here in Wales and I hope to see the industry continue to grow and thrive in the years ahead.
I have been fortunate enough to visit Bangor on Dee racecourse which is in my constituency in North Wales and also spent some time at a local stables so I do appreciate all the hard work which goes into this particular sport.
Across three racecourses, 27 training yards and a significant number of breeding operations, the industry is an invaluable contributor to the rural economy, supporting hundreds of jobs and punches well above its weight on the track. Racing is also the third biggest spectator sport in Wales by attendance with over 150,000 racegoers visiting the three Welsh tracks in 2022.
National Racehorse Week, which takes place from September 9-17, gives the entire British racing industry, from grassroots to elite level, the opportunity to showcase to the public the very best of what it does by bringing people closer to the horses at the heart of the sport. 170 events are taking place at yards, studs, retraining and rehoming centres across the country for more than 18,000 members of the public, giving them the chance to see first-hand the love, care and attention that goes into looking after racehorses.
No other top-level sport in Britain allows such behind the scenes access, with National Racehorse Week attendees able to meet the equine stars and talk to trainers and staff.
Those involved in British racing are rightly proud of the sport and the role it plays in providing an unparalleled quality of life for horses bred for racing. Love and respect for horses underpins the work of everybody in the sport, especially the dedicated stable staff who care for racehorses all 365 days of the year.
British racing does not stand still – it is continually striving to make the sport safer for horses and participants. Over the last 20 years, British racing has invested over £40 million in veterinary research and education with funding invested by the Levy Board and the Racing Foundation. In 2020, the Horse Welfare Board launched the sport’s new welfare strategy, A Life Well Lived, to ensure British racing maintains the best possible care for the animals in its care.
Of the 26 projects identified within the strategy, two have been delivered and 22 are funded and in progress. Areas where progress has already been made includes the introduction of a 30-day foal notification to improve traceability and changes to obstacle design following groundbreaking research into equine welfare.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at Wythnos Genedlaethol Ceffylau Rasio
Mae Sam Rowlands, Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi dangos ei gefnogaeth i rasio ceffylau yng Nghymru.
Yn ddiweddar, ymunodd Mr Rowlands â chyd-aelodau mewn digwyddiad galw heibio Wythnos Genedlaethol Ceffylau Rasio yn y Senedd a gynhaliwyd gan Awdurdod Rasio Ceffylau Prydain.
Meddai:
Roedd hi’n wych cael y cyfle i ddysgu mwy am Wythnos Genedlaethol Ceffylau Rasio, sy'n rhoi cyfle unigryw i aelodau'r cyhoedd ymweld ag iardiau a threulio amser gyda cheffylau rasio pedigri.
Mae diwydiant rasio Cymru yn gyfrannwr allweddol i'n heconomi wledig yma yng Nghymru ac rwy'n gobeithio gweld y diwydiant yn parhau i dyfu a ffynnu yn y blynyddoedd i ddod.
Rwyf wedi bod yn ddigon ffodus i ymweld â Chae Ras Bangor Is-y-Coed sydd yn fy etholaeth yn y Gogledd a hefyd wedi treulio peth amser mewn stablau lleol felly rwy'n gwerthfawrogi'r holl waith caled sydd ei angen ar gyfer y gamp arbennig hon.
Ar draws tri chwrs rasio, 27 iard hyfforddi a nifer sylweddol o weithrediadau bridio, mae'r diwydiant yn gyfrannwr amhrisiadwy i'r economi wledig, gan gefnogi cannoedd o swyddi a phrofi llwyddiant enfawr ar y traciau. Rasio ceffylau hefyd yw'r drydedd gamp sy’n denu’r mwyaf o wylwyr yng Nghymru gyda dros 150,000 o bobl yn ymweld â'r tri thrac yng Nghymru yn 2022.
Mae Wythnos Genedlaethol Ceffylau Rasio, sy'n cael ei chynnal rhwng 9-17 Medi, yn rhoi cyfle i'r diwydiant rasio Prydeinig cyfan, o lawr gwlad i lefel elitaidd, arddangos i'r cyhoedd y gorau o'r hyn y mae'n ei wneud trwy ddod â phobl yn agosach at y ceffylau wrth galon y gamp. Mae 170 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal mewn iardiau, stablau, canolfannau ailhyfforddi ac ailgartrefu ledled y wlad ar gyfer mwy na 18,000 o aelodau o'r cyhoedd, gan roi cyfle iddynt weld drostynt eu hunain y cariad, y gofal a'r sylw sy'n mynd i ofalu am geffylau rasio.
Nid oes unrhyw chwaraeon poblogaidd arall ym Mhrydain yn caniatáu mynediad y tu ôl i'r llenni o'r fath, gyda mynychwyr yr Wythnos Genedlaethol Ceffylau Rasio yn gallu cwrdd â’r ceffylau a siarad gyda hyfforddwyr a staff.
Mae'r rhai sy'n ymwneud â rasio ym Mhrydain yn haeddiannol falch o'r gamp a'r rôl y mae'n ei chwarae wrth ddarparu ansawdd bywyd heb ei ail i geffylau sy'n cael eu bridio ar gyfer rasio. Mae cariad a pharch at geffylau yn sail i waith pawb yn y gamp, yn enwedig y staff stablau ymroddedig sy'n gofalu am geffylau rasio bob dydd o'r flwyddyn.
Nid yw rasio Prydeinig yn aros yn ei unfan - mae'n ymdrechu'n barhaus i wneud y gamp yn fwy diogel i geffylau a’r rhai sy’n cymryd rhan. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae rasio Prydain wedi buddsoddi dros £40 miliwn mewn ymchwil milfeddygol ac addysg gyda chyllid wedi'i fuddsoddi gan y Bwrdd Ardollau a'r Sefydliad Rasio. Yn 2020, lansiodd y Bwrdd Lles Ceffylau strategaeth les newydd y gamp, A Life Well Lived, i sicrhau bod rasio Prydeinig yn rhoi’r gofal gorau posibl i'r anifeiliaid yn ei ofal.
O'r 26 prosiect a nodwyd o fewn y strategaeth, mae dau wedi'u cyflawni a 22 yn cael eu hariannu ac ar waith. Mae meysydd lle mae cynnydd eisoes wedi'i wneud yn cynnwys cyflwyno hysbysiadau ebolion 30 diwrnod i wella’r gallu i olrhain a newidiadau i ddylunio rhwystrau yn dilyn ymchwil arloesol i les ceffylau.