Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, says the fall-out continues over Welsh Labour Government’s disastrous roll out of the new 20mph speed limit.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government said:
Recently I challenged the Minister on the nearly £200,000 that the Labour government has awarded to councils in England to adapt to their ludicrous blanket 20mph rollout.
Meanwhile councils in Wales are struggling financially at the moment, with many having to find significant budget cuts to balance their books, in order to deliver the services that our residents so desperately need.
I challenged the Minister on how councils must be feeling when they can see money so desperately needed in Wales being sent to English councils in order to fund a policy that is increasingly unpopular. Isn’t it time for Labour to admit their failure of the policy and refocus their priorities to the essential services that Wales needs?
Finance Minister, Rebecca Evans said that it was only fair to people driving on those roads which cross the borders between England and Wales to have signage that is appropriate to that road.
Mr Rowlands added:
You really couldn’t make it up. This disastrous roll out is costing our councils dearly.
I sympathise with Cllr Mark Pritchard, the Leader of Wrexham Council, who quite rightly says that the money from this vanity project would have been better spent on safeguarding local services.
Without a doubt local authorities could have made better use of this money.
We have also heard that that the number of people killed or injured on 20mph roads in Bath has risen in most areas.
Meanwhile the petition opposing the blanket 20mph speed limit keeps on growing and yet Welsh Government prefer to bury their heads in the sand. I think the people of Wales deserve to be treated so much better.
Sam Rowlands AS yn herio Gweinidog ar ôl dyfarnu bron i £200,000 i gynghorau yn Lloegr i addasu eu terfyn cyflymder 20mya diofyn chwerthinllyd
Dywed Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, fod sgil effeithiau Llywodraeth Lafur Cymru yn cyflwyno’r terfyn cyflymder newydd o 20mya yn parhau.
Dywedodd Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid:
Yn ddiweddar, fe wnes i herio’r Gweinidog ynglŷn â’r swm o bron i £200,000 y mae’r llywodraeth Lafur wedi’i ddyfarnu i gynghorau yn Lloegr i addasu ar gyfer cyflwyno’r terfyn cyflymder 20mya diofyn chwerthinllyd.
Yn y cyfamser, mae cynghorau yng Nghymru yn ei chael hi’n anodd yn ariannol ar hyn o bryd, gyda llawer yn gorfod dod o hyd i doriadau sylweddol i’w cyllideb i fantoli’r cyfrifon, er mwyn darparu’r gwasanaethau y mae ein trigolion gymaint eu hangen.
Fe wnes i herio’r Gweinidog a holi sut mae cynghorau’n teimlo pan maen nhw’n gallu gweld arian sydd gymaint o’i angen yng Nghymru yn cael ei anfon at gynghorau Lloegr er mwyn ariannu polisi sy’n gynyddol amhoblogaidd. Onid yw’n bryd i Lafur gyfaddef methiant eu polisi a chanolbwyntio eu blaenoriaethau o’r newydd ar y gwasanaethau hanfodol sydd eu hangen ar Gymru?
Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, ei bod ond hollol deg i bobl oedd yn gyrru ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr i gael arwyddion sy’n briodol i’r ffyrdd hynny.
Ychwanegodd Mr Rowlands:
Mae’r gwir yn wirionach na chelwydd weithiau. Mae’r broses drychinebus hon yn costio’n ddrud i’n cynghorau.
Rwy’n cydymdeimlo â’r Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam, sy’n dweud yn gwbl briodol y byddai wedi bod yn well gwario’r arian ar ddiogelu gwasanaethau lleol nag ar y prosiect porthi balchder hwn.
Heb amheuaeth, byddai awdurdodau lleol wedi gallu gwneud gwell defnydd o’r arian hwn.
Rydym hefyd wedi clywed bod nifer y bobl sy’n cael eu lladd neu eu hanafu ar ffyrdd 20mya yng Nghaerfaddon wedi codi yn y rhan fwyaf o ardaloedd.
Yn y cyfamser, mae’r ddeiseb sy’n gwrthwynebu’r terfyn cyflymder 20mya diofyn yn parhau i dyfu, ond mae’n well gan Lywodraeth Cymru gladdu eu pennau yn y tywod. Rwy’n meddwl bod pobl Cymru yn haeddu cael eu trin gymaint yn well.