This is my final column of 2023 for the Leader, and it has certainly been an interesting year in politics to say the least!
We’ve just had news that the First Minister Mark Drakeford will be stepping down in a few months. Although we have many differences in terms of policy, I will always respect those who stand for election and certainly wish him well in his retirement.
One of his main legacies will be the disastrous blanket 20mph policy. This is something that has dominated the headlines this year, and people across Wrexham, Flintshire and the rest of North Wales have inundated me with comments and criticisms of it. I have fought against blanket 20mph every step of the way, and it has really crystallised how out of touch the Cardiff Labour Government are with the rest of Wales.
It really would be a fantastic Christmas present if Mark Drakeford and his Ministers decided to do the right thing and ditch 20mph! While we wait for a Christmas miracle, my Welsh Conservative colleagues in the Senedd have fully committed to getting rid of default 20mph, which is the correct move.
We also recently had the PISA education results, which showed that Wales has the worst performing education system in the UK. Labour have run the Welsh Government for a quarter-century, and they are failing our children. It’s incredible that one of the men running to succeed Drakeford, Jeremy Miles, has been responsible for the Welsh education system! Not a great preparation for the First Minister’s job, I’m sure you’ll agree.
To finish, I’d like to wish you all a very Merry Christmas and a Happy New Year. I’ll see you again in 2024.
If you do have any queries or issues, then please feel to contact me by emailing [email protected].
Fy marn i - The Leader
Dyma fy ngholofn olaf yn 2023 ar gyfer y Leader, a does dim dwywaith ei bod wedi bod yn flwyddyn ddiddorol mewn gwleidyddiaeth!
Rydyn ni newydd glywed y newyddion y bydd y Prif Weinidog Mark Drakeford yn camu i lawr ymhen ychydig fisoedd. Er bod gennym ni lawer o wahaniaethau o ran polisi, rydw i’n parchu'r rhai sy'n sefyll mewn etholiad bob amser a hoffwn i ddymuno'n dda iddo yn ei ymddeoliad.
Un o'r prif bethau y bydd yn eu gadael ar ei ôl fydd y polisi 20mya trychinebus. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi mynnu sylw mewn llawer o benawdau eleni, ac mae pobl o Wrecsam, Sir y Fflint a gweddill y Gogledd wedi anfon sylwadau lu a beirniadaeth ohono ataf. Rwyf wedi ymladd yn erbyn y terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya bob cam o'r ffordd, ac mae wedi dangos yn gwbl glir ddiffyg dealltwriaeth Llywodraeth Lafur Caerdydd o weddill Cymru.
Byddai'n anrheg Nadolig gwych pe bai Mark Drakeford a'i Weinidogion yn penderfynu gwneud y peth iawn a chael gwared ar y terfyn cyflymder 20mya! Wrth i ni ddisgwyl am wyrth Nadolig, mae fy nghydweithwyr yn y Ceidwadwyr Cymreig yn y Senedd wedi ymrwymo'n llawn i gael gwared ar y terfyn cyflymder 20mya diofyn, sef y cam cywir.
Cawsom ganlyniadau addysg PISA yn ddiweddar hefyd, a oedd yn dangos mai Cymru sydd â'r system addysg sy'n perfformio waethaf yn y DU. Mae Llafur wedi rhedeg Llywodraeth Cymru ers chwarter canrif, ac maen nhw'n methu ein plant. Mae'n anhygoel bod un o'r dynion sydd yn y ras i olynu Drakeford, Jeremy Miles, wedi bod yn gyfrifol am system addysg Cymru! Rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno nad yw hyn yn baratoad gwych ar gyfer swydd y Prif Weinidog.
I gloi, hoffwn i ddymuno Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. Fe wela i chi eto yn 2024.
Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau neu broblemau, mae croeso i chi gysylltu â mi drwy e-bostio [email protected].