Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, has welcomed news that a Ruthin primary school is undergoing work to improve its energy efficiency.
Mr Rowlands, Shadow Minister for Local Government, is a keen supporter of the environment and ways at encouraging us all to get involved with tackling climate change.
He said:
I am delighted to see Denbighshire County Council’s energy team are working on several projects to ultimately reduce long term energy costs at Ysgol Pentrecelyn.
We all have a responsibility to improve our carbon footprint for future generations and look at sustainable energy solutions and it is good to see work being carried out to help reach this aim.
More than ever, these days everyone is looking at ways of saving on their household costs and at the same time helping the environment so I welcome any measures which will ultimately help councils to reduce their energy costs.
Work is currently underway at a Denbighshire primary school to provide better energy efficiency for staff and pupils.
Denbighshire County Council’s Energy and Building Maintenance teams have collaborated to improve energy efficiency, reduce carbon emissions, and provide long term cost savings at Ysgol Pentrecelyn.
The Council’s Energy Team are working on several projects to improve building energy efficiency and support the reduction of running costs over the long term in the Council’s non-domestic building estate which is responsible for over 60 percent of Council carbon emissions.
Work at Ysgol Pentrecelyn from the Energy team includes topping up pitched roof insulation on the school buildings, insulating cavity wall sections, installing LED efficient lighting and adding a solar PV system to harness the sun’s energy to improve efficiency on site.
The Building Maintenance team is complimenting this work by replacing old boilers with modern condensing units, the single glazed windows with modern and efficient double-glazed units, replacing a flat roof on site and upgrading the insulation to 160mm of PIR insulation.
Work at the site is estimated to be completed by February 2024.
Headteacher Andrew Evans said:
As a school we have been fortunate to have had the opportunity to work in partnership with Denbighshire County Council to develop our school building. The modernisation work and installation of solar panels ensures we can learn in a traditional, historical building in an area of outstanding beauty, whilst also reducing our carbon footprint.
This is an important year for the school as we are celebrating our 150th Birthday and we are grateful to Denbighshire County Council for this investment which has modernised our school for its current and future pupils.
Sam Rowlands AS yn falch o glywed am waith arbed costau hirdymor mewn ysgol yn Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, wedi croesawu'r newyddion bod ysgol gynradd o Ruthun yn gweithio i wella ei heffeithlonrwydd ynni.
Mae Mr Rowlands, Gweinidog Llywodraeth Leol yr Wrthblaid, yn gefnogwr brwd o'r amgylchedd a ffyrdd o annog pob un ohonom i gymryd rhan a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Meddai:
Rwy'n falch iawn o weld bod tîm ynni Cyngor Sir Ddinbych yn gweithio ar sawl prosiect i leihau costau ynni hirdymor yn Ysgol Pentrecelyn.
Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i wella ein hôl troed carbon ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac edrych ar atebion ynni cynaliadwy ac mae'n dda gweld gwaith yn cael ei wneud i helpu i gyrraedd y nod hwn.
Bellach, yn fwy nag erioed, mae pawb yn edrych ar ffyrdd o gynilo ar gostau eu cartrefi a helpu'r amgylchedd ar yr un pryd, felly rwy'n croesawu unrhyw fesurau a fydd yn y pen draw yn helpu cynghorau i leihau eu costau ynni.
Mae gwaith ar y gweill mewn ysgol gynradd yn Sir Ddinbych ar hyn o bryd i ddarparu gwell effeithlonrwydd ynni i staff a disgyblion.
Mae timau Cynnal a Chadw Ynni ac Adeiladau Cyngor Sir Ddinbych wedi cydweithio i wella effeithlonrwydd ynni, lleihau allyriadau carbon, a darparu arbedion cost hirdymor yn Ysgol Pentrecelyn.
Mae Tîm Ynni y Cyngor yn gweithio ar sawl prosiect i wella effeithlonrwydd ynni adeiladau a chefnogi’r ymdrech i leihau costau rhedeg hirdymor yn ystâd adeiladau annomestig y Cyngor sy'n gyfrifol am dros 60 y cant o allyriadau carbon y Cyngor.
Mae gwaith yn Ysgol Pentrecelyn gan y tîm Ynni yn cynnwys ychwanegu at waith inswleiddio’r to ar adeiladau'r ysgol, inswleiddio waliau ceudod, gosod goleuadau LED effeithlon ac ychwanegu system PV solar i harneisio egni'r haul i wella effeithlonrwydd ar y safle.
Mae'r tîm Cynnal a Chadw Adeiladau yn ategu'r gwaith hwn trwy osod unedau cyddwyso modern yn lle hen foeleri, unedau gwydr dwbl modern ac effeithlon yn lle ffenestri gwydr sengl, yn uwchraddio'r inswleiddio i 160mm o inswleiddiad PIR ac yn gosod to newydd yn lle’r un gwastad a oedd yno.
Amcangyfrifir y bydd y gwaith ar y safle wedi'i gwblhau erbyn mis Chwefror 2024.
Meddai’r Pennaeth Andrew Evans:
Fel ysgol rydyn ni wedi bod yn ffodus o gael y cyfle i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych i ddatblygu adeilad ein hysgolion. Mae gwaith moderneiddio a gosod paneli solar yn sicrhau y gallwn ddysgu mewn adeilad hanesyddol, traddodiadol mewn ardal o harddwch eithriadol, tra hefyd yn lleihau ein hôl troed carbon.
Mae hon yn flwyddyn bwysig i'r ysgol gan ein bod yn dathlu ein pen-blwydd yn 150 oed ac rydyn ni’n ddiolchgar i Gyngor Sir Ddinbych am y buddsoddiad hwn sydd wedi moderneiddio ein hysgol ar gyfer disgyblion y presennol a’r dyfodol.