Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is once again backing a campaign urging everyone to take part in the Farmers’ Union of Wales Farmhouse Breakfast initiative.
The annual event is one of the key campaigns organised by the union and runs this year from Monday 15 and Sunday 21 January 2024.
Mr Rowlands, who supports the initiative every year said:
I strongly back this annual FUW initiative to encourage people to start the day with family, friends and neighbours and raise awareness of mental health.
Breakfast is one of the most important meals of the day and I am looking forward to attending a farmhouse breakfast in Cardiff at the Senedd on Tuesday January 16 and also hoping to attend a local breakfast here in North Wales.
The initiative is a great idea as not only does it encourage everyone to have a catch up before the day begins in a healthy and positive way but it also helps to raise money for charity.
It is also a wonderful opportunity to showcase the breadth and wealth of quality breakfast produce which is available all over Wales and spotlight the importance to our rural economy.
Breakfast is one of the most important meals of the day and it is a great opportunity to talk and share your thoughts before starting the day, helping also to improve people’s mental health.
So in order to promote the health benefits and have a good catch up before the day starts, Farmers’ Union of Wales teams across the country are once again hosting a variety of farmhouse breakfasts for a week between Monday 15 and Sunday 21 January 2024. The FUW is also again taking the farmhouse breakfast to Cardiff on Tuesday, January 16.
FUW President Ian Rickman said:
We all get really excited about our farmhouse breakfasts every year. We can start the day together with family, friends and neighbours, in a positive and healthy way and at the same time raise money for our charitable cause, the Wales Air Ambulance. All of us are looking forward to yet another good turnout. It’s fair to say that a healthy start is not just good for a healthy heart but also for a healthy mind.
I hope many of you will be able to join us for breakfast. We want you to be a part of what we do, and share your thoughts and worries about the state of the industry, tell us your stories and help us to understand how we can help each other. What better way to do that than round a table where we share great food and have a cup of tea.
Breakfast events are being held across North Wales. For more information about the venues go to the FUW website.
Sam Rowlands AS yn cefnogi’r alwad i hyrwyddo manteision brecwast da ar ddechrau’r diwrnod
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o Senedd Cymru dros y Gogledd, yn cefnogi ymgyrch unwaith eto sy’n annog pawb i gymryd rhan ym menter Brecwast Ffermdy Undeb Amaethwyr Cymru.
Mae'r digwyddiad blynyddol yn un o'r ymgyrchoedd allweddol a drefnir gan yr undeb ac mae'n cael ei gynnal eleni rhwng dydd Llun 15 a dydd Sul 21 Ionawr 2024.
Dywedodd Mr Rowlands, sy'n cefnogi'r fenter bob blwyddyn:
Rwy'n cefnogi'n gryf y fenter flynyddol hon gan UAC i annog pobl i ddechrau'r dydd gyda’r teulu, ffrindiau a chymdogion a chodi ymwybyddiaeth o iechyd meddwl.
Brecwast yw un o brydau pwysicaf y dydd ac rwy'n edrych ymlaen at fynd i frecwast ffermdy yn y Senedd yng Nghaerdydd fore Mawrth, 16 Ionawr. Gobeithio y daw cyfle i fynd i frecwast lleol yma yn y Gogledd hefyd.
Mae'r fenter yn syniad gwych gan ei bod yn annog pawb i weld ei gilydd mewn ffordd iach a chadarnhaol cyn i'r diwrnod ddechrau, ac mae’n helpu i godi arian i elusen hefyd.
Mae’n gyfle gwych hefyd i ddangos y dewis eang a’r cyfoeth o gynnyrch brecwast o safon sydd ar gael ledled Cymru ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein heconomi wledig.
Brecwast yw un o brydau pwysicaf y dydd ac mae'n gyfle gwych i siarad a rhannu eich meddyliau cyn dechrau'r diwrnod, gan helpu i wella iechyd meddwl pobl hefyd
Felly, er mwyn hyrwyddo manteision iechyd a chael cyfle i weld ein gilydd cyn i'r diwrnod ddechrau, mae timau Undeb Amaethwyr Cymru ledled y wlad yn cynnal amrywiaeth o frecwastau ffermdy unwaith eto am wythnos rhwng dydd Llun 15 a dydd Sul 21 Ionawr 2024. Unwaith yn rhagor, mae UAC yn dod â brecwast ffermdy i Gaerdydd ddydd Mawrth 16 Ionawr.
Meddai Llywydd UAC, Ian Rickman:
Mae’n brecwast ffermdy yn destun balchder i ni bob blwyddyn. Gallwn ddechrau'r dydd gyda’r teulu, gyda ffrindiau a chymdogion, mewn ffordd gadarnhaol ac iach, ac ar yr un pryd mae cyfle i godi arian at ein hachos elusennol, sef Ambiwlans Awyr Cymru. Rydym i gyd yn edrych ymlaen at gefnogaeth dda unwaith eto. Mae'n deg dweud bod dechrau iach yn dda i feddwl iach yn ogystal â chalon iach.
Rwy'n gobeithio y bydd llawer ohonoch chi’n gallu ymuno â ni i gael brecwast. Rydyn ni’n awyddus i chi fod yn rhan o'r hyn a wnawn, ac yn awyddus i glywed eich meddyliau a'ch pryderon am gyflwr y diwydiant, dewch i ddweud eich hanes a’n helpu i ddeall sut y gallwn helpu ein gilydd. Pa ffordd well o wneud hynny na dod at y bwrdd gyda’n gilydd a rhannu bwyd gwych a phaned o de.
Mae brecwastau ffermdy’n cael eu cynnal ar hyd a lled y Gogledd. Am fwy o wybodaeth am y lleoliadau ewch i wefan Undeb Amaethwyr Cymru (UAC).