Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is urging eligible adults to call into a local venue and get a free flu vaccine.
From today, Tuesday January 2, Betsi Cadwaladr University Health Board is urging people to drop into a vaccination centre without an appointment.
Mr Rowlands, who has a flu jab every year, said:
I am happy to promote the health board’s call for eligible people to be vaccinated and urge them to take advantage of this opportunity to ensure they protect themselves and others.
I welcome any measures which will prevent people being admitted to hospital with flu which puts even more pressure on our hardworking NHS staff.
These days more than ever people are very aware of the dangers of respiratory viral infection. Flu is bad enough on its own but for anyone who is unfortunate to catch both flu and Covid, the consequences could be very severe indeed.
It is vital as many people as possible get protected, particularly those who are most vulnerable. Not only does this protect the individual but also protects our Welsh NHS.
Flu is a serious respiratory illness affecting the lungs and airways and can lead to serious conditions like bronchitis and pneumonia, which can require hospital treatment. It can result in serious health consequences for many of the most vulnerable people.
The best way to protect against the flu is to get the annual vaccine which can prevent you getting the flu, and can reduce the severity of symptoms if you do get the illness.
Flu vaccines are quick and very safe and can prevent weeks of serious illness, and protect you, your family and the wider community.
From January 2, all adults eligible for the flu vaccine can drop in to one of the health board’s clinics to get vaccinated against flu without an appointment. Locations, dates and times of the clinics are available here.
Sam Rowlands AS yn croesawu canolfannau galw heibio ar gyfer brechiadau ffliw yn y Gogledd
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o Senedd Cymru dros y Gogledd, yn annog oedolion cymwys i alw heibio canolfan leol i gael brechlyn ffliw am ddim.
O heddiw, dydd Mawrth 2 Ionawr, ymlaen mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn annog pobl i alw heibio canolfan frechu heb apwyntiad.
Dywedodd Mr Rowlands, sy'n cael pigiad ffliw bob blwyddyn:
Rwy'n hapus i hyrwyddo galwad y bwrdd iechyd am i bobl gymwys gael eu brechu ac rwy’n eu hannog i fanteisio ar y cyfle hwn i sicrhau eu bod yn amddiffyn eu hunain ac eraill.
Rwy'n croesawu unrhyw fesurau a fydd yn atal pobl rhag gorfod mynd i'r ysbyty oherwydd y ffliw a rhoi hyd yn oed mwy o bwysau ar staff hynod weithgar y GIG.
Y dyddiau hyn mae mwy nag erioed o bobl yn deall yn iawn pa mor beryglus yw haint firaol anadlol. Mae’r ffliw yn ddigon drwg ar ei ben ei hun ond i unrhyw un sy'n ddigon anffodus i ddal y ffliw a Covid, gallai'r canlyniadau fod yn ddifrifol iawn.
Mae'n hollbwysig bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu hamddiffyn, yn enwedig y rhai sydd fwyaf agored i niwed. Mae hyn yn ein hamddiffyn ni fel unigolion ond yn amddiffyn y GIG yng Nghymru hefyd.
Mae ffliw yn salwch anadlol difrifol sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r llwybrau anadlu a gall arwain at gyflyrau difrifol fel broncitis a niwmonia, sydd weithiau’n peri bod angen triniaeth mewn ysbyty. Gall arwain at ganlyniadau iechyd difrifol i lawer o'r bobl fwyaf agored i niwed.
Y ffordd orau o amddiffyn rhag y ffliw yw cael y brechlyn blynyddol. Gall y brechlyn eich atal rhag cael y ffliw, a gall leihau difrifoldeb y symptomau os ydych chi’n cael y salwch.
Mae cael eich brechu rhag y ffliw yn broses gyflym a diogel iawn a gall atal wythnosau o salwch difrifol, a'ch diogelu chi, eich teulu a'r gymuned ehangach.
O 2 Ionawr ymlaen, gall pob oedolyn sy'n gymwys i gael y brechlyn ffliw alw heibio i un o glinigau'r bwrdd iechyd i gael eu brechu rhag y ffliw heb apwyntiad. Mae lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd y clinigau ar gael yma.