Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is calling on the Welsh Government to fix the mess they have made over the introduction of the blanket 20mph speed limits across Wales.
Mr Rowlands, a harsh critic of the Welsh Labour Government’s ludicrous policy is once again calling for it to be scrapped.
He said:
I fully support a call by Wrexham Council’s Leader who has reportedly called for this crazy law to be thrown out.
Mark Pritchard, quite rightly wants to see this costly exercise scrapped so cash strapped councils can spend the money on what is needed in their counties.
I am also extremely concerned that Arriva Buses Wales are having to change their services across North Wales because of the challenges of the 20mph speed limits.
People who use public transport in North Wales now find themselves in an even more difficult position as a direct result of Welsh Government's default 20mph speed limit.
These changes include a number of communities losing their bus services altogether, one example being Llandegla in rural Denbighshire.
All this has a significant negative impact on my constituents and it makes their lives more difficult. It's going to affect their jobs, their families, their social lives—all because of an unwanted roll-out of a 20mph default speed limit.
This is in stark contrast to the Welsh Government's stated aim of getting people onto public transport. What has been implemented is a policy that actively forces people not to be able to access that public transport and instead increases dependency on cars.
It is time for the Welsh Government to get a grip and start to fix the mess they have created and It is high time vanity projects were given the boot.
Sam Rowlands AS yn cefnogi galwad arweinydd y cyngor i gael gwared ar y terfyn cyflymder trychinebus o 20mya
Mae Sam Rowlands, yr Aelod o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i glirio’r llanast maen nhw wedi'i greu wrth gyflwyno'r cyfyngiadau cyflymder 20mya cyffredinol ledled Cymru.
Mae Mr Rowlands, beirniad hallt o bolisi chwerthinllyd Llywodraeth Lafur Cymru, unwaith eto yn galw am gael gwared ar y ddeddfwriaeth.
Meddai:
Rwy'n llwyr gefnogi’r alwad gan Arweinydd Cyngor Wrecsam sydd wedi galw yn ôl pob sôn am i'r gyfraith wallgo hon gael ei hanghofio.
Mae Mark Pritchard yn hollol gywir eisiau gweld yr ymarfer costus hwn yn cael ei ddileu fel y gall cynghorau, sydd heb fawr ddim arian, wario'u harian ar yr hyn sydd ei angen yn eu siroedd.
Rydw i hefyd yn bryderus iawn bod Bysiau Arriva Cymru yn gorfod newid eu gwasanaethau ledled y Gogledd oherwydd heriau'r terfynau cyflymder 20mya.
Mae pobl sy'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gogledd mewn sefyllfa waeth nag erioed nawr o ganlyniad uniongyrchol i derfyn cyflymder cyffredinol 20mya Llywodraeth Cymru.
Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys nifer o gymunedau yn colli eu gwasanaethau bws yn gyfan gwbl, ac un enghraifft yw Llandegla yng nghefn gwlad Sir Ddinbych.
Mae hyn i gyd yn cael effaith negyddol iawn ar fy etholwyr ac mae'n gwneud eu bywydau'n anoddach nag erioed. Mae'n mynd i effeithio ar eu swyddi, ar eu teuluoedd, ar eu bywydau cymdeithasol i gyd – a hynny oherwydd i’r terfyn cyflymder cyffredinol o 20mya gael ei gyflwyno’n ddiangen.
Mae’n gwbl groes i nod datganedig Llywodraeth Cymru o gael pobl ar drafnidiaeth gyhoeddus. Yr hyn sydd ar waith yw polisi sy'n rhwystro pobl rhag medru cael mynediad at y drafnidiaeth gyhoeddus honno, gan gynyddu’r ddibyniaeth ar geir.
Mae'n hen bryd i Lywodraeth Cymru ei siapio hi a dechrau clirio'r llanast maen nhw wedi'i greu - ac mae'n hen bryd rhoi’r gorau i brosiectau ‘sbïwch arnom ni’ o’r fath.