Sam Rowlands, Member of the Welsh Parliament for North Wales, is backing a business initiative being held across the county next month.
Mr Rowlands, a keen supporter of any events to help local businesses said:
I am delighted to see the return of Denbighshire Council’s March for Business campaign and urge anyone interested in attending to make sure they sign up.
It is great to see so many different events planned which offer free and valuable advice and information to help our local businesses.
These days more than ever it is vitally important that local companies are supported and the March for Business 2024 is definitely one not to miss.
The successful March For Business campaign returns in March and will be the sixth business month run by the council, returning after a successful campaign last year.
This year there are a number of exciting events planned, which will be hosted at various locations across the county and online. These events will include a mixture of networking events and workshops.
This year the events will include Mental Health & Stress Awareness for Employers, Pop Up Business Support, Procurement, Sales Club, Starting & Running a Business and more.
The events planned will be delivered in partnership with external support providers Business Wales, RCS, Federation of Small Businesses, Food & Drink Skills Wales, West Cheshire & North Wales Chamber of Commerce & more.
For more information, please go to the webpage.
Sam Rowlands AS yn tynnu sylw at ymgyrch Mis Mawrth Menter yn Sir Ddinbych
Mae Sam Rowlands, Aelod Rhanbarthol o’r Senedd dros Ogledd Cymru, yn cefnogi menter fusnes sy'n cael ei chynnal ar draws y sir fis nesaf.
Meddai Mr Rowlands, sy’n cefnogi unrhyw ddigwyddiadau i helpu busnesau lleol yn frwd:
Rwy'n falch iawn o weld ymgyrch Mis Mawrth Menter Cyngor Sir Ddinbych yn dychwelyd ac rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn mynychu i sicrhau eu bod yn cofrestru.
Mae'n wych gweld cymaint o wahanol ddigwyddiadau wedi'u trefnu sy'n cynnig cyngor a gwybodaeth werthfawr am ddim i helpu ein busnesau lleol.
Y dyddiau hyn, yn fwy nag erioed o’r blaen, mae'n hanfodol bwysig bod cwmnïau lleol yn cael eu cefnogi ac mae Mis Mawrth Menter 2024 yn bendant yn un na ddylid ei golli.
Bydd ymgyrch lwyddiannus Mis Mawrth Menter yn dychwelyd ym mis Mawrth a dyma fydd y chweched mis busnes i’w gynnal gan y cyngor, gan ddychwelyd ar ôl ymgyrch lwyddiannus y llynedd.
Eleni, mae nifer o ddigwyddiadau cyffrous ar y gweill, a fydd yn cael eu cynnal mewn gwahanol leoliadau ar draws y sir ac ar-lein. Bydd y digwyddiadau hyn yn cynnwys cymysgedd o ddigwyddiadau rhwydweithio a gweithdai.
Eleni, bydd y digwyddiadau'n cynnwys Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl a Straen i Gyflogwyr, Cymorth Busnes Dros Dro, Caffael, Clwb Gwerthu, Sefydlu a Chynnal Busnes a mwy.
Bydd y digwyddiadau a drefnir yn cael eu cynnal mewn partneriaeth â'r darparwyr cymorth allanol, Busnes Cymru, RCS, Ffederasiwn Busnesau Bach, Sgiliau Bwyd a Diod Cymru, Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru a mwy.
Am ragor o wybodaeth, ewch i'r dudalen we.